Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
7.1 HHP/2022/171 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu hefo balconis Juliet yn Awel y Bryn, Trigfa, Moelfre
PENDERFYNWYD cadarnhau’r penderfyniad blaenorol i wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog.
7.2 DIS/2022/63 – Cais i ryddhau amod (05)(tirwedd) (08)(arwyddion) (16)(asesiad risg lliniaru) o ganiatâd cynllunio FPL/2021/337 (cais llawn ar gyfer adeiladu Cyfleuster Ffiniau Mewndirol (IBF) yn Hen Safle Roadking, Parc Cybi, Caergybi
PENDERFYNWYD gohirio’r cais am y rhesymau a roddwyd.
7.3 FPL/2022/53 - Cais llawn ar gyfer codi 22 annedd marchnad agored a 1 annedd fforddiadwy, addasu'r fynedfa bresennol, creu ffordd fynediad fewnol yn ogystal â gwaith cysylltiedig ar dir ger Cae Braenar, Caergybi
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig, ynghyd â chytundeb cyfreithiol 161 bod 1 annedd fforddiadwy yn cael ei godi a chyfraniad o £110,313 i Ysgol Llanfawr.
7.4 HHP/2022/46 – Cais llawn ar gyfer dymchwel, addasu ac ehangu yn Tan yr Allt Bach, Llanddona
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog ac yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.
7.5 VAR/2022/41 - Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (09) (draenio dŵr wyneb), (13) (cymeradwyo lle i barcio cerbydau a cheir), a (14) (yn unol â chynlluniau i'w cymeradwyo) o ganiatâd cynllunio rhif 46C188G (ailddatblygu'r safle presennol ynghyd â chodi hyd at 6 o unedau) er mwyn caniatáu cyflwyno cynllun draenio dŵr wyneb, man troi cerbydau a maes parcio, ynghyd ag yr ail-leoli a dyluniad diwygiedig yr anheddau arfaethedig yn 1 Clos Dŵr Glas, Bae Trearddur
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog ac yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.
7.6 HHP/2022/230 - Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu yn Dinas Bach, 5 Fron Estate, Aberffraw
PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd credid bod y cynnig yn groes i bolisi cynllunio PCYFF 2.
Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, gohiriwyd y cais yn awtomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion baratoi adroddiad mewn perthynas â'r rhesymau a roddwyd dros wrthod y cais.
7.7 FPL/2022/189 – : Cais ôl-weithredol i gadw defnydd fflat yn Bilash, Dew Street, Porthaethwy
Ni chafod y cais hwn ei ystyried gan nad oedd cworwm. Bydd y cais yn cael ei drafod yn ystod y cyfarfod gohiriedig a fydd yn cael ei drefnu maes o law.
7.8 FPL/2022/172 - Cais llawn ar gyfer newid defnydd, addasu ac ehangu adeilad allanol presennol i fod yn annedd menter wledig ynghyd â gosod system trin carthffosiaeth newydd yn Eirianallt Goch Farm, Carmel, Llannerchymedd
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd y credid ei fod yn cydymffurfio â’r polisi gan fod yr annedd amaethyddol wedi’i cholli o ganlyniad i ysgariad; gan fod y cais yn cefnogi teulu ffermio lleol; a chan ei fod wedi’i leoli ger y fferm sy’n dystiolaeth o ddilyswyd y cynnig.
Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, gohiriwyd y cais yn awtomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion baratoi adroddiad mewn perthynas â'r rhesymau a roddwyd dros wrthod y cais.
Dyddiad cyhoeddi: 07/12/2022
Dyddiad y penderfyniad: 07/12/2022
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 07/12/2022 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dogfennau Cefnogol: