Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
12.1 FPL/2022/60 – Cais llawn i godi 14 annedd ynghyd â chreu ffordd fynediad fewnol a gwaith cysylltiedig ar safle cyn Ysgol Niwbwrch, Stryd Pen Dref Street, Niwbwrch
Ni chafod y cais hwn ei ystyried gan nad oedd cworwm. Bydd y cais yn cael ei drafod yn ystod y cyfarfod gohiriedig a fydd yn cael ei drefnu maes o law.
12.2 VAR/2022/69 - Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (02) (Cynllun sydd wedi ei ganiatáu) a (08) (Draenio dŵr wyneb) o ganiatâd cynllunio rhif FPL/2019/7 (Codi ysgol gynradd newydd) er mwyn caniatáu i ddŵr wyneb ddraenio i un pwynt cyswllt y garthffos gyhoeddus yn Bryn Meurig, Llangefni
Ni chafod y cais hwn ei ystyried gan nad oedd cworwm. Bydd y cais yn cael ei drafod yn ystod y cyfarfod gohiriedig a fydd yn cael ei drefnu maes o law.
12.3 VAR/2022/52 - Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (02) (Cynlluniau a ganiatawyd), (03)(Oriau Gweithredu), (04)(Oriau Dosbarthu) a (05)(Oriau Gwirio Gwesteion) o ganiatâd cynllunio rhif FPL/2021/317 (Cais llawn i ddymchwel adeilad tri llawr presennol yn cynnwys dau fflat preswyl a storfa breswyl ategol ar y llawr gwaelod ac adeiladu adeilad tri llawr newydd yn cynnwys dau fflat preswyl a gwesty 10 ystafell gyda bwyty cysylltiedig ar y llawr gwaelod a chyfleuster chwaraeon dŵr ar gyfer gwesteion a pharcio cysylltiedig) er mwyn caniatáu amodau gweithredu/agor diwygiedig yn Cumbria & High Wind, Stryd Fawr, Rhosneigr
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.4 Cais llawn ar gyfer adeiladu 10 uned llety ar gyfer gwesteion priodas ynghyd â gwaith cysylltiedig ym Mharc Gwledig Henblas, Bethel, Bodorgan
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.5 FPL/2022/195 – Cais llawn ar gyfer codi tyrbin gwynt 13.5m o uchder, 5kW yn Pendref, Llanfairynghornwy
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle rhithiol yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rhesymau a roddwyd.
12.6 FPL/2022/215 - Cais llawn ar gyfer codi sied amaethyddol i storio peiriannau ynghyd â chadw'r gwaith ail wynebu yn Capel Bach, Rhosybol
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle rhithiol yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rhesymau a roddwyd.
Dyddiad cyhoeddi: 07/12/2022
Dyddiad y penderfyniad: 07/12/2022
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 07/12/2022 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dogfennau Cefnogol: