Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Penderfynwyd argymell i’r Cyngor Llawn ei fod yn cymeradwyo’r newidiadau canlynol i’r Polisi Darpariaeth Refeniw Isaf am y flwyddyn ariannol gyfredol 2022/23 a thu hwnt –
· Nodi’r adroddiad yn Atodiad 1 ac Adroddiad Grŵp Link Asset sydd wedi’i atodi yn Atodiad 3 ar yr opsiynau Darpariaeth Refeniw Isaf (MRP).
· Newid tâl MRP y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar fenthyciadau gyda chefnogaeth gofyniad cyllido cyfalaf (CFR) o 2% o CFR y CRT i ddull Oes Ased – Blwydd-dal ar gyfer 60 mlynedd ar gyfradd llog gyfartaledig y Cyngor sy’n daladwy ar ei fenthyciadau (Opsiwn 1ch yn Nhabl 2 Atodiad 1) o 1 Ebrill 2022.
· Newid MRP y CRT ar fenthyciadau digefnogaeth CFR o 2% CFR y CRT i ddull Oes Ased – Blwydd-dal ar gyfer 60 mlynedd ar gyfradd llog gyfartaledig y Cyngor sy’n daladwy ar ei fenthyciadau (Opsiwn 2ch yn Nhabl 2 Atodiad 1) o 1 Ebrill 2022.
· Newid MRP Cronfa’r Cyngor ar fenthyciadau gyda chefnogaeth CFR o ddull Oes Ased – Rhandaliad Cyfartal i ddull Oes Ased – Blwydd-dal ar gyfer 46 mlynedd ar gyfradd llog arferol y Cyngor sy’n daladwy ar ei fenthyciadau (Opsiwn 3ch yn Nhabl 2 Atodiad 1) o 1 Ebrill 2022.
· Newid MRP Cronfa’r Cyngor ar fenthyciadau digefnogaeth CFR o ddull Oes Ased – Rhandaliad Cyfartal i ddull Oes Ased – Blwydd-dal ar gyfer 27.5 mlynedd ar gyfradd llog gyfartaledig y Cyngor sy’n daladwy ar ei fenthyciadau o 1 Ebrill 2022.
· Cymeradwyo’r Datganiad Polisi MRP diwygiedig ar gyfer 2022/23 a thu hwnt yn Atodiad 2, sy’n seiliedig ar yr opsiynau yn y pwyntiau bwled uchod.
Dyddiad cyhoeddi: 02/03/2023
Dyddiad y penderfyniad: 02/03/2023
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 02/03/2023 - Pwyllgor Gwaith
Dogfennau Cefnogol: