Manylion y penderfyniad

Medium Term Financial Strategy and Budget 2023/24

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo

Is AllweddolPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

Penderfynwyd –

·         Gytuno ar fanylion terfynol cyllideb arfaethedig y Cyngor, fel y dangosir yn Adran 4 Atodiad 1 ac Atodiad 2 yr adroddiad.

·         Nodi argymhelliad y Swyddog Adran 151 y dylai'r Cyngor gadw o leiaf £8.6m o falansau cyffredinol.

·         Nodi sylwadau’r Swyddog Adran 151 ar gadernid yr amcangyfrifon a wnaed, fel y nodir yn Adran 5 Atodiad 1.

·         Argymell i'r Cyngor llawn gyllideb net o £174.569m i'r Cyngor Sir a chynnydd, yn sgil hynny, o 5.00% (£68.40 – Band D) yn y Dreth Gyngor, gan nodi y câi penderfyniad ffurfiol, yn cynnwys praeseptau Heddlu Gogledd Cymru a’r Cynghorau Cymuned, ei gyflwyno i'r Cyngor 9 Mawrth 2023.

·         Y bydd unrhyw wahaniaethau rhwng y setliad amodol a'r setliad terfynol yn cael eu haddasu drwy ddefnyddio'r arian wrth gefn cyffredinol sydd wedi ei gynnwys yng nghyllideb 2023/24, neu drwy gyfrannu i / o gronfeydd wrth gefn cyffredinol y Cyngor er mwyn gosod cyllideb gytbwys.

·         Awdurdodi'r Swyddog Adran 151 i wneud unrhyw newidiadau angenrheidiol cyn cyflwyno'r cynigion terfynol i'r Cyngor;

·         Cytuno y byddir yn gallu tynnu cyllid o'r gyllideb wrth gefn gyffredinol yn sgil unrhyw bwysau, na chawsant eu rhagweld, ar gyllidebau seiliedig ar alw yn ystod y flwyddyn ariannol.

·         Gofyn i'r Cyngor awdurdodi'r Pwyllgor Gwaith i ryddhau hyd at £250k o'r balansau cyffredinol os yw'r gyllideb wrth gefn gyffredinol wedi'i hymrwymo'n llawn yn ystod y flwyddyn.

·         Dirprwyo i'r Swyddog Adran 151 yr hawl i ryddhau cyllid o hyd at £50k o'r gronfa wrth gefn gyffredinol ar gyfer unrhyw eitem unigol. Ni ddylid caniatáu unrhyw eitem dros £50k heb ganiatâd o flaen llaw y Pwyllgor Gwaith.

·         Cadarnhau bod lefel Premiwm y Dreth Gyngor ar gyfer ail gartrefi yn cynyddu i 75%, ac yn aros ar 100% ar gyfer cartrefi gwag.

 

Dyddiad cyhoeddi: 02/03/2023

Dyddiad y penderfyniad: 02/03/2023

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 02/03/2023 - Pwyllgor Gwaith

Dogfennau Cefnogol: