Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Penderfynwyd –
Nodi’r prif ddatganiadau ariannol drafft (heb eu harchwilio) ar gyfer 2022/23. Cyhoeddir y Datganiad Cyfrifon llawn drafft ar gyfer 2022/23 yn https://www.ynysmon.llyw.cymru/cy/Cyngor/Cyllideb-y-Cyngor/Datganiad-or-cyfrifon.aspx
· Nodi’r sefyllfa o ran y balansau cyffredinol, sef £13.967m, a chymeradwyo creu’r cronfeydd wrth gefn clustnodedig newydd a nodir yn Nhabl 3, a ddaw i gyfanswm o £4.320m.
· Cymeradwyo’r balans o £19.638m fel cyfanswm y cronfeydd wrth gefn clustnodedig ar gyfer 2022/23 (£23.18m yn 2021/22). Mae hyn £3.544m yn is na 2021/22, ac mae’n cynnwys £4.320m o gronfeydd wrth gefn newydd, fel yr argymhellir uchod, a gostyngiad cyffredinol o £7.471m yn y cronfeydd wrth gefn presennol, er bod hyn yn cynnwys symiau sydd wedi cynyddu a gostwng yn y cronfeydd wrth gefn presennol.
· Nodi’r sefyllfa o ran balansau ysgolion, sef £6.716m.
· Nodi balans y CRT o £12.107m.
· Cymeradwyo’r Gronfa Wrth Gefn Grantiau Cyfalaf Heb eu Cymhwyso newydd gyda balans o £0.407m fel y nodir yn y Datganiad Symudiadau yn y Cronfeydd Wrth Gefn yn Atodiad 4.
· Cymeradwyo trosglwyddo £1.365m o’r cronfeydd wrth gefn gwasanaethau yn ôl i’r gronfa wrth gefn gyffredinol er mwyn cynyddu hyblygrwydd a gwydnwch ariannol y Cyngor.
Dyddiad cyhoeddi: 18/07/2023
Dyddiad y penderfyniad: 18/07/2023
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 18/07/2023 - Pwyllgor Gwaith
Dogfennau Cefnogol: