Manylion y penderfyniad

Gweddill y Ceisiadau

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo

Is AllweddolPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

12.1 FPL/2022/186 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol i faes carafan teithiol, newid defnydd yr adeilad allanol presennol i ddefnydd ategol i'r maes carafan ynghyd a gosod system trin carthffosiaeth yn Esgobaeth Bran, Llanbedrgoch

 

Penderfynwyd cynnal ymweliad safle ffisegol yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rheswm a roddwyd.

 

12.2 FPL/2023/177 – Cais llawn ar gyfer amnewid y llifoleuadau presennol ar y cae synthetig yng Nghanolfan Hamdden Plas Arthur, Llangefni

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.3 FPL/2022/296 – Cais llawn am godi paneli solar arae yn cynnwys dwy res o 20 panel solar yn The Lodge, Ffordd yr Ysgol, Llanddaniel

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.4 FPL/2023/143 – Cais llawn ar gyfer adeilad modiwlaidd newydd ar gyfer gofal plant yn Ysgol Gymuned Y Fali, Lôn Spencer, Y Fali

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.5 FPL/2023/155 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd adeilad allanol i uned gwyliau ynghyd a gwaith cysylltiedig yn Llwyn Onn, Llanfairpwll

 

Penderfynwyd cynnal ymweliad safle ffisegol yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rheswm a roddwyd.

 

12.6 VAR/2023/36 – Cais dan Adran 73 i ddiwygio amod (05)(Gosodiad y ffordd a goleuadau stryd) o caniatâd cynllunio rhif FPL/2020/149 (codi 8 annedd fforddiadwy ynghyd a creu mynedfa cerbydau newydd ac datblygiadau cysylltiedig) er mwyn newid yr amod cyn dechrau ar y gwaith i amod cyn i rywun ddechrau byw yn yr annedd ar dir yn Stad y Felin, Llanfaelog

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig ac ar yr amod fod yr ymgeisydd yn llofnodi cytundeb Adran 106 newydd.

Dyddiad cyhoeddi: 06/09/2023

Dyddiad y penderfyniad: 06/09/2023

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 06/09/2023 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Dogfennau Cefnogol: