Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Penderfynwyd –
· Nodi a derbyn y Llythyr Blynyddol gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC) 2022/23
· Cefnogi’r dasg o weithredu Polisi Enghreifftiol OGCC
· Cefnogi’r dasg o ddatblygu strategaeth hyfforddi
· Cefnogi’r dasg o ddatblygu asesiad anghenion hyfforddi a chyflwyno hyfforddiant addas yn ôl yr angen
· Awdurdodi'r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro i ysgrifennu at OGCC er mwyn cadarnhau bod y Pwyllgor Gwaith wedi rhoi ystyriaeth ffurfiol i’w Llythyr Blynyddol ac yn cytuno i weithredu’r elfennau y cyfeirir atynt yn ei Llythyr Blynyddol
· Rhoi sicrwydd y bydd y Cyngor yn parhau i fonitro cwynion a thrwy hynny roi'r wybodaeth sydd ei hangen ar yr Aelodau i graffu ar berfformiad y Cyngor.
Dyddiad cyhoeddi: 26/09/2023
Dyddiad y penderfyniad: 26/09/2023
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 26/09/2023 - Pwyllgor Gwaith
Dogfennau Cefnogol: