Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Penderfynwyd –
· Nodi cyfrifiad Sylfaen y Dreth Gyngor gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151, fydd yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cyfrifo’r Grant Cynnal Refeniw i Gyngor Sir Ynys Môn am y flwyddyn ariannol 2024/25, sef 31,241.64 (Rhan E6 o Atodiad A yn yr adroddiad)
· Cymeradwyo’r cyfrifiad at ddiben pennu Sylfaen y Dreth Gyngor gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 am y cyfan o'r ardal ac am rannau ohoni am y flwyddyn 2024/25 (Rhan E6 o Atodiad A yn yr adroddiad)
· Yn unol â Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor) (Cymru) 1995 (SI19956/2561), fel y cawsant eu diwygio gan SI1999/2935 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor) a’r Dreth Gyngor (Dosbarthiadau Rhagnodedig o Anheddau) (Cymru) (Diwygiad) 2004 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor) (Cymru) (Diwygiad) 2016, y rhain yw'r cyfansymiau y mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi eu cyfrif fel Sylfaen y Dreth am 2024/25 sef 33,170.03, ac am y rhannau hynny o'r ardal fel sydd wedi eu rhestru yn y tabl o dan argymhelliad 3 yn yr adroddiad.
Dyddiad cyhoeddi: 28/11/2023
Dyddiad y penderfyniad: 28/11/2023
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 28/11/2023 - Pwyllgor Gwaith
Dogfennau Cefnogol: