Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Penderfynwyd –
· Nodi Adroddiad Effaith Economaidd-gymdeithasol Gogledd Ynys Môn a chynnwys yr adroddiad fel ei fod yn gwbl ymwybodol o’r sefyllfa bresennol, y tueddiadau, y cyfleoedd a’r heriau.
· Cefnogi’r Arweinydd i ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cabinet newydd dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg i godi ymwybyddiaeth o’r materion, heriau a chyfleoedd.
· Cefnogi gweithgareddau parhaus y Cyngor i nodi a sicrhau cyllid allanol i hwyluso gweithgareddau adfywio yn y dyfodol.
· Sicrhau bod Swyddogion ac Aelodau Etholedig yn defnyddio’r data sydd yn yr Adroddiad Effaith i wneud penderfyniadau gwybodus fel Cyngor llawn i gyflawni Cynllun y Cyngor (2023-2028).
Dyddiad cyhoeddi: 23/07/2024
Dyddiad y penderfyniad: 23/07/2024
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 23/07/2024 - Pwyllgor Gwaith
Dogfennau Cefnogol: