Manylion y penderfyniad

Gweddill y Ceisiadau

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo

Is AllweddolPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

 12.1  FPL/2024/105 – Cais llawn i godi 30 o anheddau preswyl (100% o unedau tai fforddiadwy), newidiadau i'r fynedfa bresennol, creu mynedfa newydd a ffordd fynediad fewnol ynghyd â gwaith cysylltiedig ar dir i’r Gogledd-Ddwyrain o Gwêl y Llan, Llandegfan

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol.

 

12.2  FPL/2024/7 – Cais llawn ar gyfer gwaith adnewyddu ar y fflatiau presennol, gosod paneli solar ar y to yn ogystal â tirlunio caled a gwaith cysylltiedig yn 107-113, 116-122, 133-152 Ystâd Tan y Bryn, Y Fali

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig. 

 

12.3  FPL/2024/78 – Cais llawn ar gyfer gwaith adnewyddu ar y fflatiau presennol, gosod paneli solar ar y to yn ogystal â tirlunio caled a gwaith cysylltiedig yn Fflatiau Bron Heulog, Y Fali

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig. 

 

12.4  FPL/2024/29 – Cais llawn ar gyfer creu parc cyhoeddus yn cynnwys gwaith tirlunio caled a meddal, lle chwarae, codi strwythurau, rheoleiddio llwybrau troed presennol, creu llwybrau troed newydd a llwybrau pren ynghyd ag adeiladu lle parcio anabl ar dir ym Mhorth Amlwch

 

PENDERFYNWYD dirprwyo pwerau i’r Swyddogion i’w galluogi i ddelio ag unrhyw  geisiadau i ryddhau amodau cyn dechrau ac yn amodol ar dderbyn ac ystyried yr Arolwg Ymlusgiaid sy’n weddill cyn belled nad yw’n peri’r angen am ddiwygiadau sylweddol neu faterol i’r cais.

Dyddiad cyhoeddi: 02/10/2024

Dyddiad y penderfyniad: 02/10/2024

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 02/10/2024 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Dogfennau Cefnogol: