Manylion y penderfyniad

Connecting Care Programme Progress Update - Procurement & Finance

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Cyflwynwyd Adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, a oedd yn cynnwys Diweddariad ar Gynnydd y Rhaglen Cysylltu Gofal – Caffael a Chyllid, i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion bod y Rhaglen Cysylltu Gofal wedi esblygu o’r angen i gynnig darpariaeth yn lle System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (WCCIS), yn dilyn adolygiad strategol ddaeth i’r casgliad nad oedd yr WCCIS bellach yn addas i’r diben.  Mae’r Rhaglen Cysylltu Gofal yn cydnabod yr angen i gefnogi sefydliadau i ymgorffori a chynnal systemau gwybodaeth cleientiaid er mwyn cefnogi gofynion gweithredol a strategol yn ogystal â chynnal ymrwymiad i gyflawni targed gofal cenedlaethol ar gyfer dinasyddion Cymru.  Ar hyn o bryd, mae 19 partner (16 Awdurdod Lleol a 3 Bwrdd Iechyd) yn gweithio gyda’r Rhaglen Cysylltu Gofal. Mae’r Cyngor hwn wedi bod yn gweithio ag Awdurdodau yng Ngogledd Cymru i gaffael system newydd er mwyn gwneud arbedion sylweddol a chael cefnogaeth a chyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer system genedlaethol newydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu cymorth ariannol er mwyn darparu system newydd ond nid yw wedi nodi faint o gyllid fydd ar gael, a sut fydd yn cael ei ddyrannu.  Roedd cost bresennol contract WCCIS Ynys Môn wedi’i amlinellu yn yr adroddiad. Mae angen cadarnhad ynghylch y cyllid cenedlaethol er mwyn cefnogi’r gwaith o weithredu’r system a chostau parhaus. Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru ddarparu cyllid cenedlaethol ar gyfer y system Cysylltu Gofal, fodd bynnag nid yw hyn wedi’i gadarnhau ac mae oedi wedi bob wrth benderfynu a fyddant yn ariannu’r cynllun yn llawn neu’n rhannol. Gan na fydd hynny’n cael ei gadarnhau cyn gwerthuso a dyfarnu’r tendr, ac o gofio nad oes gan Ynys Môn ddewis ond disodli ei system WCCIS, roedd yr adroddiad yn amlygu bod angen sicrhau cyllideb fel y gall swyddogion fwrw ‘mlaen â’r cynllun.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion bod yr oedi o ran ymateb y Llywodraeth i’r Rhaglen Cysylltu Gofal hwn yn rhwystredig iawn. 

 

PENDERFYNWYD:-

  • Cymeradwyo’r dull a ffafrir, fel y disgrifir yn yr Adroddiad hwn, ac yn unol â pharagraff 3.5.1.6 i awdurdodi’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol (neu ei enwebai) i gymryd rhan llaw yn nyfarniad y contract a’r gwaith o ffurfioli’r contract.
  • Petai Llywodraeth Cymru yn methu â darparu’r cyllid disgwyliedig, neu os yw’r cyllid yn annigonol, bydd y 4 Gyllideb arfaethedig i’r Pwyllgor Gwaith ar gyfer 2025/2026 yn cynnwys:-

·         Swm untro o rhwng £276,000 a £313,000 ar gyfer y gost gweithredu contract;

·         Swm refeniw bob blwyddyn o rhwng £108,000 a £153,000 (ar gyfer trwyddedau a chostau lletya):

·         Swm untro o £58,000 er mwyn ariannu swydd Graddfa 5 i gefnogi gweithrediad, hyfforddiant a chefnogaeth i’r system bresennol o Ebrill 2025 am gyfnod o flwyddyn.

·         Yn amodol ar gymeradwyaeth Cadeirydd y Cyngor, o ganlyniad i’r amserlen dynn a ddisgrifir yn yr Adroddiad, mae’r Pwyllgor Gwaith yn eithrio’r penderfyniad rhag gallu cael ei alw i mewn gan Sgriwtini gan y byddai’r amserlen angenrheidiol ar gyfer y broses alw i mewn yn niweidiol i fudd gorau’r Cyngor a’r cyhoedd.

 

Dyddiad cyhoeddi: 22/10/2024

Dyddiad y penderfyniad: 22/10/2024

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 22/10/2024 - Pwyllgor Gwaith

Dogfennau Cefnogol: