Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Cyflwynwyd, i’w ystyried, adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a oedd yn gofyn i’r Pwyllgor Gwaith lofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth arfaethedig rhwng y partïon perthnasol mewn perthynas â Phorthladd Rhydd Ynys Môn.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Prif Swyddog Datblygu Economaidd a ailgyflwynodd y cefndir gan gadarnhau bod fersiwn drafft o Achos Busnes Llawn (Abl) Ynys Môn wedi'i gyflwyno i Lywodraethau San Steffan a Llywodraeth Cymru ar 17 Ionawr 2025 ac yn dilyn adborth ysgrifenedig ar 11 Mawrth, ailgyflwynwyd yr Abl drafft gyda'r disgwyliad y byddai'n cael ei lofnodi ddechrau mis Ebrill 2025. Ar ôl cymeradwyo ABLl, rhaid cytuno i lofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth. Pwrpas y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yw nodi'r telerau, yr egwyddorion a'r arferion sy'n llywodraethu'r berthynas waith rhwng y partïon perthnasol - Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Ynys Môn a Phorthladd Rhydd Ynys Môn, a'r gofynion sy'n weddill. Llofnodi'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yw'r cam olaf cyn daw’r Porthladd Rhydd yn weithredol. Mae'n ffurfioli'r ymrwymiadau allweddol a wnaed gan y Porthladd Rhydd yn yr ABLl ac yn amlinellu pa gefnogaeth y gall ei ddisgwyl gan Lywodraethau'r DU a Chymru. Mae'r Cyngor wedi adolygu a gwneud sylwadau ar y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ddrafft ac mae'n aros am fersiwn derfynol Llywodraeth Cymru. Unwaith y bydd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth wedi'i adolygu gan Brif Weithredwr y Cyngor, y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a'r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro, bydd y Cyngor yn bwrw ymlaen i’w lofnodi. Yn amodol ar gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith, bydd yn cael ei lofnodi cyn diwedd mis Mai fel bod y Porthladd Rhydd yn gwbl weithredol erbyn 1 Mehefin 2025.
Wrth fynd i'r afael ag ymholiadau'r Pwyllgor Gwaith ynghylch cynnydd ac amserlenni, diweddarodd y Prif Swyddog Datblygu Economaidd aelodau ar ddatblygiadau llywodraethu gan gynnwys statws cytundebau aelodau a thirfeddianwyr. Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y bwrdd cysgodol ym mis Ionawr 2025 gyda rhanddeiliaid allweddol i ddechrau newid i weithredu Porthladd Rhydd. Hefyd rhoddodd y Prif Weithredwr y wybodaeth ddiweddaraf am Safleoedd Treth dynodedig y Porthladd Rhydd a materion cysylltiedig.
Penderfynwyd –
Dyddiad cyhoeddi: 29/04/2025
Dyddiad y penderfyniad: 29/04/2025
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 29/04/2025 - Pwyllgor Gwaith
Dogfennau Cefnogol: