Manylion y penderfyniad

Local Council Tax Reduction Scheme 2014-15

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Cyngor Sir Ynys Môn

Statws Penderfyniad : Er Penderfyniad

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Adroddwyd gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) – Ar 27 Tachwedd 2013 cymeradwyodd Cynulliad Cymru ddau set newydd o reoliadau: Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013.  Mae’r Rheoliadau 2013 hyn yn pennu prif nodweddion y Cynllun i’w mabwysiadu gan yr holl Gynghorau yng Nghymru o 2014-2015 ymlaen.

 

Bu’n ofynnol i’r Cyngor wneud cynllun ar gyfer 2014/2015 o dan ofynion y rheoliadau er y ffaith y byddai cynllun diofyn yn dod i rym hyd yn oed pe bai’r Cyngor yn methu â gwneud cynllun.  Roedd yr ymrwymiad yn ddyletswydd statudol ac yn berthnasol hyd yn oed pe bai’r Cyngor yn dewis peidio â gosod unrhyw un o’r digresiynau oedd ar gael iddo.

 

Yn 2013/2014, nid oedd unrhyw arian ychwanegol ar gael gan Lywodraeth Cymru i gyllido’r elfennau disgresiynol.

 

Roedd Rheoliadau 2013 yn gosod dyletswydd ar yr Awdurdod i ystyried ar gyfer pob blwyddyn ariannol a fyddai’n adolygu ei gynllun neu yn dod â chynllun arall yn ei le.  Rhaid i’r Awdurdod wneud unrhyw newidiadau neu newid cynllun heb fod yn hwyrach na 31 Ionawr yn y flwyddyn ariannol cyn y flwyddyn y dônt i rym.

 

Roedd y goblygiadau ariannol wedi eu hamlinellu yn yr adroddiadau cyllidebol i’r Pwyllgor Gwaith.  Cost ragnodedig y cynllun arfaethedig yn 2014/15 oedd rhwng £5.51m a £5.61m, oedd yn £350k – £460k yn fwy na’r grant o £5.15m.

 

Roedd darpariaeth gyllidebol o £400k yn cael ei gynnig i gyfarfod â’r diffyg hwn fyddai’n cael ei fonitro mewn adrodiadau monitro’r gyllideb i’r Pwyllgor Gwaith.  Nid oedd yn ystyried bod y diffyg yn dderbyniol nac yn gynaladwy ac roedd yn gobeithio y byddai’r neges hwn yn cael ei gyfleu i’r Cynulliad.

 

PENDERFYNWYD

 

·                Nodi gwneud Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 (“y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig”) gan Lywodraeth Cymru ar 27 Tachwedd, 2013 a’r Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Treth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a Chynlluniau Diofyn) (Cymru) Diwygiad 2014 (“y Rheoliad Diwygio”) gan Gynulliad Cymru ar 14 Ionawr, 2014).

 

·                Nodi canlyniad yr ymarfer ymgynghori a gynhaliwyd gan y Cyngor ar gyflwyno’r Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor oedd wedi ei amlinellu yn Atodiad B.

 

·                Mabwysiadu’r Cynllun fel oedd i’w weld yn Atodiad A.

 

·                Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i’r Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) i ddiwygio’r Cynllun Cefnogaeth Treth Gyngor Leol 2014/2015 pe bai angen hynny i gymryd i ystyriaeth unrhyw reoliadau a gaiff eu pasio wedi hynny gan Lywodraeth Cymru yn diwygio’r Cynllun.

 

Dyddiad cyhoeddi: 18/03/2014

Dyddiad y penderfyniad: 27/01/2014

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 27/01/2014 - Cyngor Sir Ynys Môn

Dogfennau Cefnogol: