Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
7.1 FPL/2022/66 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd tir i greu ardal barcio ceir yn Porth Wen, Llanbadrig
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog ar y sail bod y Pwyllgor o’r farn y byddai'n fuddiol lliniaru'r problemau parcio yn yr ardal a bod amod ychwanegol yn cael ei roi ar y caniatâd i wahardd parcio ar y safle dros nos ac i'r safle gael ei gloi gyda'r nos.
(Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, gohiriwyd y cais yn awtomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion baratoi adroddiad mewn perthynas â'r rhesymau a roddwyd dros gymeradwyo'r cais).
7.2 S106/2022/4 – Cais ar gyfer diwygio Cytundeb Adran 106 yn ymwneud a tai fforddiadwy o ganiatad cynllunio 27C23A ar dir ger Hen Ysgol Gynradd Llanfachraeth, Llanfachraeth
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.
7.3 FPL/2021/159 Cais llawn ar gyfer codi 50 annedd preswyl, 12 fflat preswyl, adeiladu mynedfa a ffordd newydd i gerbydau, adeiladu gorsaf bwmpio dŵr budr ynghyd â gwaith tirlunio meddal a chaled ar dir ger Ystâd Maes Derwydd, Llangefni
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.
7.4 FPL/2022/14 – Cais llawn ar gyfer dymchwel yr annedd a modurdy presennol a codi annedd newydd ynghyd â addasu'r fynedfa bresennol yn Green Bank, Ffordd Porth Llechog, Porth Llechog, Amlwch
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Dyddiad cyhoeddi: 05/10/2022
Dyddiad y penderfyniad: 05/10/2022
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 05/10/2022 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion