Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
7.1 33C304B/ECON – Cais amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw’n ôl ar gyfer dymchwel y fferm gyfredol, codi parc gwyddoniaeth, creu maes parcio a mynedfa newydd i gerbydau ar Gyffordd 7 yr A55 (ger Cefn Du), Gaerwen
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog (fel y cafodd ei ddiwygio yn y cyfarfod) a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
7.2 33C295B – Cais llawn i godi annedd a gwaith altro i’r fynedfa gyfredol ar dir ger 4 Nant-y-Gors, Pentre Berw
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
7.3 34C553A – Cais amllinellol ar gyfer datblygiad preswyl, priffordd ac isadeiledd cysylltiedig yn Ty’n Coed, Llangefni
PENDERFYNWYD gohirio’r cais yn groes i argymhelliad y swyddog oherwydd gorddatblygu, ymwthio i ardal wledig ac ni fedr iasdeiledd y dref gefnogi datblygiad o’r fath.
Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, bydd y cais yn cael ei ohirio’n awtomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn caniatáu i’r Swyddogion ymateb i’r rhesymau a roddwyd dros wrthod y cais.
Dyddiad cyhoeddi: 26/05/2015
Dyddiad y penderfyniad: 13/05/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 13/05/2015 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dogfennau Cefnogol: