Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Cyflwynwyd i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad ar y cyd gan y
Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo a'r Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu
Economaidd mewn perthynas â sefydlu Arbrawf Gorfodaeth Amgylcheddol.
Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Priffyrdd, Eiddo a Rheoli Gwastraff fod y Cyngor yn ystyried bod yn rhan o arbrawf am 12 mis gyda chwmni i gyflwyno hysbysiadau cosb sefydlog am droseddau amgylcheddol gan gynnwys gollwng sbwriel, baw cŵn a thipio anghyfreithlon.
Dywedodd y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo fod cwmni gorfodaeth
gwastraff preifat o’r enw Kingdom yn cyflwyno hysbysiadau cosb sefydlog am
daflu sbwriel a materion baw cŵn ar gyfer nifer o awdurdodau lleol. Nododd os bydd yr arbrawf o roi hysbysiadau cosb sefydlog am daflu sbwriel, tipio
anghyfreithlon a baw cŵn yn llwyddiannus, yna dylid ystyried ymestyn y contract I roi Hysbysiadau Cosb am Barcio Ar y Stryd ac Oddi ar y Stryd.
Wedi iddo ofyn i gael annerch y Pwyllgor, dywedodd y Cynghorydd Peter Rogers fod problemau parcio enbyd yn ardal Niwbwrch a bod angen cynnwys
Hysbysiadau Cosb am Barcio Ar y Stryd ac Oddi ar y Stryd yn y contract gyda'r cwmni gorfodaeth preifat Kingdom fel mater o frys.
· Awdurdodi’r Cyngor i wneud cytundeb gyda Kingdom i gynnal arbrawf
12 mis i roi hysbysiadau cosb sefydlog am droseddau amgylcheddol yn cynnwys taflu sbwriel, baeddu gan gŵn a thipio anghyfreithlon, ar sail Opsiwn 3 a nodir yn yr adroddiad hwn, gydag opsiwn i ymestyn y
cytundeb am 12 mis pellach, yn ddibynnol ar gytundeb y ddau barti;
· Awdurdodi’r Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo a’r Pennaeth
Rheoleiddioa Datblygu Economaidd i benodi staff gorfodi dynodedig
Kingdom yn Swyddogion Awdurdodedig i’r Cyngor er mwyn eu galluogi i wneud gwaith gorfodi, yn cynnwys rhoi hysbysiadau cosb sefydlog perthnasol.
· Awdurdodi’r Pennaeth Gwasanaeth perthnasol i ddefnyddio unrhyw
incwm a gynhyrchir o roi hysbysiadau cosb sefydlog er mwyn cwrdd ag amcanion amgylcheddol eu gwasanaeth;
· Ar ôl tri mis cychwynnol yr arbrawf, os bydd y gwasanaeth o’r farn bod
y cynllun peilot yn mynd yn ei flaen yn dda, gellir ymestyn yr arbrawf i
gynnwys rhoi Hysbysiadau Cosb am Barcio Ar y Stryd ac Oddi ar y
Stryd yn amodol ar gyngor cyfreithiol ynglŷn â goblygiadau TUPE.
Dyddiad cyhoeddi: 20/03/2017
Dyddiad y penderfyniad: 20/03/2017
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 20/03/2017 - Pwyllgor Gwaith
Dogfennau Cefnogol: