Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
12.1 FPL/2019/1 – Cais llawn ar gyfer newid adeilad allanol yn saith fflat ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau yn Capel Carmel, Lôn Capel, Amlwch
Ar gais yr Aelod Lleol, PENDERFYNWYD ymweld â’r safle.
12.2 DIS/2019/84 - Cais i ryddhau amod (11) (Cynllun rheoli traffig adeiladwaith) o ganiatâd cynllunio FPL/2019/9 ym Maes y Coed, Porthaethwy
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.3 FLP/2019/79 - Cais llawn i newid defnydd ystafell gymunedol bresennol i annedd 1 ystafell wely yn Waun Dirion, Benllech
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.4 FPL/2018/55 – Cais llawn ar gyfer newid adeilad allanol yn llety gwyliau ynghyd â gosod gwaith trin carthffosiaeth yn Penrhyn Owen, Caergybi
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais gydag amodau ychwanegol parthed gofynion i greu llefydd pasio ar y briffordd gyfagos a chyflwyno manylion y gwaith mewn perthynas â waliau terfyn ac i roi’r hawl i’r Swyddog weithredu ar ôl i’r cyfnod ymgynghori statudol ddod i ben.
Dyddiad cyhoeddi: 04/09/2019
Dyddiad y penderfyniad: 04/09/2019
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 04/09/2019 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dogfennau Cefnogol: