Manylion y penderfyniad

Regeneration Scheme (Former School & Library Site, Holyhead)

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo

Is AllweddolPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd oedd yn nodi'r sefyllfa a'r cynnydd presennol o ran ail-ddatblygu hen safle'r ysgol a'r llyfrgell, Caergybi i'w hystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor Gwaith fod hen safle Ysgol y Parc a'r Llyfrgell yn ymestyn i 4.1 erw ar gyrion Canol Tref Caergybi. Cwblhawyd y gwaith o ddymchwel hen adeiladau'r ysgol a'r llyfrgell yn haf 2020, mae’r safle bellach yn adfeiliedig a ffensys o’i gwmpas i’w ddiogelu. Ar ôl sicrhau cyllid Buddsoddi mewn Adfywio a Dargedir gan Lywodraeth Cymru, comisiynwyd ymgynghorwyr allanol gan y Gwasanaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd i baratoi uwchgynllun cychwynnol ar gyfer y safle er mwyn nodi opsiynau posibl ar gyfer ei ailddatblygu'n llawn gan ganolbwyntio ar greu swyddi, cyfleoedd, mewnfuddsoddi ac adfywio safle pwysig yng nghanol trefi. Mae'r broses hon wedi'i gohirio gan bandemig Covid 19; felly mae'r adroddiad yn rhoi crynodeb o'r cynnydd a wnaed hyd yma ac yn nodi'r ystyriaethau sy'n gysylltiedig â datblygu'r gweithgareddau datblygu ychwanegol pellach a nodwyd yn yr adroddiad.

 

Mae'r Pwyllgor Gwaith wedi ystyried yr adroddiad ac wedi cytuno â'r argymhellion ar gyfer symud ymlaen.

 

Penderfynwyd bwrw ymlaen yn unol â’r argymhellion yn yr adroddiad.

 

Dyddiad cyhoeddi: 21/06/2021

Dyddiad y penderfyniad: 21/06/2021

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 21/06/2021 - Pwyllgor Gwaith

Dogfennau Cefnogol: