Manylion y penderfyniad

Gweddill y Ceisiadau

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Statws Penderfyniad : Er Penderfyniad

Is AllweddolPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

12.1   TPO/2022/16 – Cais i wneud gwaith ar 6 o coed sydd wedi ei/eu gwarchod gan Orchymyn Diogelu Coed ar dir rhwng y gronfa ddŵr a 30, Ty Mawr Estate, Porthaethwy

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.2   VAR/2022/48 – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (04) o caniatâd cynllunio rhif 45C260B (Cais llawn i newid defnydd yr adeilad presennol o A1 (man werthu) i ddefnydd cymysg A1 ac A3 (man werthu a bwyd a diod)) er mwyn newid oriau agor presennol yn Madryn House, Pen Dref Street, Niwbwrch

 

PENDERFYNWYD:-

 

·           Cymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog ar y sail bod y Pwyllgor o’r farn na fyddai'r cais yn achosi effeithiau andwyol annerbyniol ar fwynderau preswyl trigolion cyfagos gan fod eiddo masnachol eraill wedi'u lleoli yn yr ardal gyfagos;

·           caniatáu i'r eiddo agor rhwng 9.00 a.m. a 10.00 p.m., saith diwrnod yr wythnos, am gyfnod prawf o 2 flynedd.

 

(Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, gohiriwyd y cais yn awtomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion baratoi adroddiad mewn perthynas â'r rhesymau a roddwyd dros gymeradwyo'r cais).

 

12.3   FPL/2022/134 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd yr adeilad allanol i gosodiad gwyliau 2 ystafell wely yn Tithe Barn, Henblas, Llangristiolus

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.4    DIS/2022/62 – Cais i ryddhau amod (02a) ( Archaeolegol), (07) (Asesiad Risg Bioddiogelwch) a (17) (Cynllun Rheoli Traffig Adeiladu) o ganiatâd cynllunio FPL/2021/361 ( codi uned cyfnod sylfaen a uned gofal plant newydd) a MAO/2022/16 (Mân newidiadau) ar dir ger Ysgol y Graig, Llangefni

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.5   VAR/2021/65 – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amodau 13 a 14 o ganiatâd cynllunio rhif 47C74 Codi 34 o felinau gwynt 53 metr mewn uchder llawn ynghyd a darparu lon atynt a gwneud gwaith datblygu cysylltiedig yn cynnwys darparu cyfnewidyddion ac is-orsaf a tri fast anemomedr ar dir tua'r Gogledd o Llyn Alaw er mwyn ymestyn cyfnod gweithredol tan 22/10/2032, ymestyn y cyfnod datgomisiynu i 12 mis a chael eglurhad ynghylch y cyfnod i ddatgomisiynu y tyrbinau gwynt os yw'n methu â chynhyrchu trydan parhaus yn Fferm Wynt Llyn Alaw, Llanbabo

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.6   HHP/2022/46 – Cais llawn ar gyfer dymchwel, addasu ac ehangu yn Tan yr Allt Bach, Llanddona

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle rhithiol yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rhesymau a nodwyd.

 

12.7   HHP/2022/219 – Cais llawn ar gyfer addasu ag ehangu yn 7 Tre Gof, Llanddaniel

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.8    HHP/2022/171 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu hefo balconis Juliet yn Awel y Bryn, Trigfa, Moelfre

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle rhithiol yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rhesymau a nodwyd.

 

12.9   FPL/2022/216 – Cais llawn ar gyfer estyniad i'r cwrtil yn Glanllyn, Llanedwen, Llanfairpwll

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.10  FPL/2022/198 – Cais llawn ar gyfer gosod 2 Bwmp Gwres Ffynhonnell Aer 470kW ac ystafell beiriannau sy'n cynnwys 2 Bwmp Gwres Ffynhonnell Dŵr ynghyd â datblygiad cysylltiedig yng Nghyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

Dyddiad cyhoeddi: 05/10/2022

Dyddiad y penderfyniad: 05/10/2022

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 05/10/2022 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Dogfennau Cefnogol: