Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Er mwyn monitro perfformiad Cyllideb Gyfalaf 2023/24.
PENDERFYNWYD:-
· Nodi cynnydd y gwariant a’r derbyniadau yn erbyn y gyllideb gyfalaf ar gyfer 2023/24 yn chwarter 3.
· Cymeradwyo’r cynlluniau ychwanegol gwerth £9.396m a ychwanegwyd i’r rhaglen gyfalaf a’r cyllid diwygiedig, yn unol ag Atodiad C, a fydd yn rhoi cyllideb gyfalaf ddiwygiedig o £62.095m ar gyfer 2023/24.
· Bod Arweinydd y Cyngor yn ysgrifennu’n ffurfiol at Lywodraeth Cymru er mwyn mynegi siom bod disgwyl iddynt ad-dalu dau grant Anghenion Dysgu Ychwanegol gan na chyflawnwyd y gwaith yn unol â’r telerau a’r amodau oherwydd yr angen i flaenoriaethu materion RAAC yn Ysgol Uwchradd Caergybi a chapasiti’r tîm ADY.
Dyddiad cyhoeddi: 29/02/2024
Dyddiad y penderfyniad: 29/02/2024
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 29/02/2024 - Pwyllgor Gwaith
Dogfennau Cefnogol: