Manylion y penderfyniad

Materion Eraill

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo

Is AllweddolPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

13.1  MAO/2024/4 – Mân newidiadau i gynllun sydd wedi ei ganiatáu yn flaenorol o dan ganiatâd cynllunio rhif FPL/2022/53 er mwyn diwygio'r deunyddiau gorffenedig yng Nghae Braenar, Penrhos, Caergybi.

 

Hysbyswyd y Pwyllgor bod y cais am fân newidiadau wedi cael ei gymeradwyo ar 14 Mehefin er mwyn diwygio’r deunyddiau gorffenedig.

 

13.2  RM/2024/1 - Cais am faterion a gadwyd yn ôl ar gyfer adeiladu 10 annedd ynghyd â darparu gwybodaeth i ryddhau amod (05) (Cynllun Rheoli Traffig Adeiladu), amod (06) (Trefniadau Mynedfa) ac amod (09) (Prif Bibell Ddŵr) o ganiatâd cynllunio OP/2021/10 yn Nhyn y Ffynnon, Llannerchymedd.

 

Hysbyswyd y Pwyllgor bod y cais Materion a Gadwyd yn ôl wedi cael ei gymeradwyo ar 7 Mehefin, 2024.

 

13.3  MAO/2024/7 – Mân newidiadau i gynllun sydd wedi cael ei ganiatáu yn flaenorol o dan ganiatâd cynllunio rhif FPL/2020/71 er mwyn diwygio dyluniad yn Nhre Angharad, Bodedern.

 

Hysbyswyd y Pwyllgor bod y cais am fân newidiadau wedi cael ei gymeradwyo ar 3 Gorffennaf, 2024 er mwyn diwygio deunydd y gorffeniad.

 

Dyddiad cyhoeddi: 28/07/2024

Dyddiad y penderfyniad: 24/07/2024

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 24/07/2024 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Dogfennau Cefnogol: