Manylion y penderfyniad

Applications Arising

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

7.1 10C118A/RE – Cais llawn i osod ffarm arae heulol 15MW ar dir ger Bryn yr Odyn, Soar

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag adroddiad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir ynddo.

 

7.2                14C135A - Cais llawn i godi annedd a garej breifat, creu mynedfa newydd i gerbydau ynghyd â gosod pecyn gwaith trin carthion ar dir ger Glasfryn, Tyn Lôn

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais er mwyn caniatáu i’r Swyddog Cynllunio ymgynghori gyda’r ymgeisydd ynghylch cyflwyno tystiolaeth o’r angen am fforddiadwy.

 

7.3 19C1052C –Cais llawn i godi deuddeg fflat dwy loft a thri fflat un llofft ynghyd ag adeiladu mynedfa newydd  ar safle hen glwb y Gymdeithas Forwrol Frenhinol, St David’s Road, Caergybi.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag adroddiad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir ynddo.

 

7.4 28C483 – Cais llawn i osod caban pren yn Sea Forth, Warren Road, Rhosneigr

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag adroddiad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir ynddo. 

7.5 30C713 – Codi tyrbin gwynt 10kw gydag uchder hwb o ddim mwy na 15.5m, diameter llafn o hyd at 7.5m a blaen fertigol o uchder o ddim mwy na 19.25m

 

Penderfynwyd, ar bleidlais fwrw’r Cadeirydd, ganiatáu’r cais yn unol ag adroddiad y Swyddog gyda’r amodau a restrir ynddo.

 

7.6 45C438 – Cais amlinellol gyda rhai materion a gadwyd yn ôl i godi annedd, creu mynedfa i gerbydau ynghyd â gosod tanc septig ar dir  ger Bryn Gwyn, Niwbwrch

Penderfynwyd gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad adroddiad y Swyddog.

Dyddiad cyhoeddi: 20/12/2013

Dyddiad y penderfyniad: 04/12/2013

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 04/12/2013 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Dogfennau Cefnogol: