Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a nodai'r ffactorau allweddol mewn perthynas â’r bwriad i brynu hen safle Peboc yn Llangefni. Manylai'r adroddiad ar y rhesymeg dros y bwriad i’w brynu, y dull o’i brynu a'r goblygiadau cost a chyllido.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Gary Pritchard, yr Arweinydd a’r Aelod Portffolio dros Ddatblygu Economaidd, gan nodi mai'r cynnig oedd bod y Cyngor yn defnyddio cyllid cyfalaf a gyflwynir gan Borthladd Rhydd Ynys Môn i brynu hen safle Peboc a chlirio’r safle, ei baratoi a sicrhau mynediad iddo. Trwy wneud y gwaith cyn-ddatblygu hwn, ynghyd â chymhellion Treth Porthladd Rhydd, y nod oedd denu buddsoddiad y sector preifat.
Adroddodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd fod polisi lleol, rhanbarthol a chenedlaethol yn gyson, bod angen hwyluso lle busnes o ansawdd uchel i feithrin twf, cynorthwyo arloesedd a darparu swyddi o ansawdd uchel. Roedd angen swyddi a buddsoddiad ar Ynys Môn a Llangefni yn benodol. Roedd Peboc wedi'i ddynodi'n safle cyflogaeth wedi'i ddiogelu ac wedi'i gydnabod gan Lywodraeth Cymru yn Barth Menter. Polisi'r Cyngor oedd ailddefnyddio tir llwyd i berwyl economaidd. Roedd ailddatblygu Peboc yn unol â pholisi ac, felly, nid oedd angen i'r Cyngor ryddhau tir glas ar gyfer datblygu. Roedd Peboc, hefyd, yn rhan o safle Treth Canol Ynys Môn oedd yn golygu ei fod yn elwa ar gyllid cyfalaf cychwynnol a chymhellion Treth Porthladd Rhydd oedd yn gwella hyfywedd y safle i'r sector preifat. Roedd rhesymeg glir dros ei brynu i fynd i'r afael â phroblemau’r safle, denu buddsoddiad mewn ardal oedd mewn angen a diwallu angen tystiolaethol a chynyddol am arwynebedd llawr busnes i ategu cyfleoedd datblygu economaidd sylweddol oedd ar y gweill. Roedd yr adroddiad yn amlinellu'r gwaith a wnaed hyd yn hyn i hwyluso gwaith datblygu’r safle, gan gynnwys caniatâd cynllunio, y strategaeth ar gyfer prynu’r safle, yn amodol ar gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith, a'r ystyriaethau dan sylw.
Dangosodd y Pwyllgor Gwaith gefnogaeth i'r cynnig. Roedd yn cydnabod ei fod yn gyfle gwerthfawr i ailddefnyddio safle a fu’n segur ers amser maith a sicrhau cyflogaeth yr oedd dirfawr ei hangen yn y rhan hon o Ynys Môn. Nodwyd bod y cynnig yn cyd-fynd ag un o brif amcanion strategol y Cyngor - ysgogi adfywio economaidd a chymunedol a chefnogi'r economi a busnesau lleol i dyfu a ffynnu.
Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod adroddiad wedi dod i law yswirwyr y Cyngor a rhoddodd grynodeb i'r aelodau o'i brif ganfyddiadau.
Penderfynwyd –
· Cymeradwyo’r egwyddor o brynu hen safle Peboc gan ddefnyddio cyllid cyfalaf cychwynnol Porthladd Rhydd Ynys Môn.
· Dirprwyo'r awdurdod i'r Prif Weithredwr, ochr yn ochr â'r Swyddog Adran 151, brynu safle Peboc unwaith y byddai’r trafodaethau’n dod i ben. (Roedd y perchnogion presennol wedi derbyn cynnig dros dro).
· Dirprwyo'r awdurdod i'r Prif Weithredwr, ochr yn ochr â'r Swyddog Adran 151, drafod y taliadau iawndal a’u talu i’r defnyddwyr presennol.
Dyddiad cyhoeddi: 23/09/2025
Dyddiad y penderfyniad: 23/09/2025
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 23/09/2025 - Pwyllgor Gwaith
Dogfennau Cefnogol: