Manylion y penderfyniad

Allocation of up to £100k Funding from General Balances

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

Penderfynwyd -

 

·      Caniatáu i ryddhau hyd at £100k o falansau cyffredinol y Cyngor er mwyn -

 

·         Cadw’r gefnogaeth a ddarperir gan staff asiantaeth er mwyn datblygu arbenigedd dau gyfreithiwr sydd bellach wedi’u penodi.

·         Ariannu costau parhaus, ond dros dro, cefnogaeth gan staff asiantaeth ar gyfer cleientiaid, er mwyn sicrhau trosglwyddiad esmwyth a diogel yn ôl i ddarpariaeth gyfreithiol fewnol yn y meysydd gwaith arferol hynny

·         Cadw’r Swyddog Diogelu Data Dros Dro presennol i sicrhau bod y Rhaglen Adfer a Gwella Llywodraethu Gwybodaeth yn cael ei chyflawni, yn ogystal ag adolygu a diweddaru’r system CRM, a datblygu paragyfreithiwr newydd.

·      Dirprwyo unrhyw geisiadau pellach o’r fath i’r Arweinydd a’r Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer, mewn trafodaeth â’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151.

 

Dyddiad cyhoeddi: 24/02/2026

Dyddiad y penderfyniad: 24/02/2026

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 24/02/2026 - Pwyllgor Gwaith

Dogfennau Cefnogol: