Manylion y penderfyniad

Gweddill y Ceisiadau

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

12.1 19C1046C/LB – Cais am ganiatâd adeilad rhestredig ar gyfer dymchwel rhan o’r tŷ yn Soldiers Point, Caergybi.

 

Penderfynwyd ymweld â’r safle yn unol â chais a gafwyd gan un o’r Aelodau Lleol ac am y rheswm a roddwyd.

 

12.2 19LPA992/CC – Cais llawn i osod ffenestri codi pren traddodiadol newydd yn lle’r ffenestri sydd ar lawr cyntaf ac ail lawr y drychiad blaen yn Dafydd Hardy, 9 Stryd Stanley, Caergybi.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.3 33C302 – Cais llawn i newid defnydd adeilad o fod yn annedd (C3) i fod yn rhannol yn siop gwerthu prydau poeth (A3) ac yn rhannol yn annedd (C3) ynghyd â chreu lle parcio ychwanegol yn Penffordd, Gaerwen

 

Penderfynwyd ymweld â’r safle yn unol â chais a gafwyd gan un o’r Aelodau Lleol ac am y rheswm a roddwyd.

 

12.4 34LPA993/AD/CC – Cais i godi 31 o arwyddion amrywiol ar draws Stad Ddiwydiannol Bryn Cefni, Llangefni

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

Dyddiad cyhoeddi: 10/03/2014

Dyddiad y penderfyniad: 05/03/2014

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 05/03/2014 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Dogfennau Cefnogol: