4 Cyllideb Refeniw Ddrafft 2018/19 PDF 717 KB
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
• Bod swm o £125k yn cael ei gynnwys yn y gyllideb derfynol i gyllido’r Tîm Ynys Ynni a bod y swm hwn yn cael ei gadw yn y gyllideb am y cyfnod y bydd angen y Tîm fel y nodir ym mharagraff 3.2 yr adroddiad.
• Bod y grantiau sydd wedi eu hymgorffori yn y Cyllid Allanol Cyfun (AEF) a'r cyllid ychwanegol ar gyfer cyfrifoldebau newydd yn cael eu dyrannu i'r cyllidebau priodol fel y caniatawyd ar gyfer hynny yn y gyllideb ddisymud yn unol â pharagraffau 5.4 a 5.5 yr adroddiad;
• Cadarnhau bod angen cyllideb wrth gefn o £600k i dalu unrhyw gostau tâl ychwanegol (fel y caniatawyd ar ei gyfer yn y gyllideb ddisymud). Adolygu gwerth y gronfa wrth gefn hon cyn penderfynu ar y cynigion ar gyfer y gyllideb derfynol (paragraff 6.1 yr adroddiad);
• Ymgynghori gyda’r cyhoedd ynghylch cynnydd ychwanegol o 1% yn y Dreth Gyngor uwchlaw’r cynnydd o 4% sydd wedi ei bennu yn y Cynllun Ariannol Tymor Canol a bod y cyllid yn cael ei roi o’r neilltu i gyllido'r pwysau ychwanegol sydd ar y Gwasanaethau Cymdeithasol yn unol â pharagraff 6.5 yr adroddiad;
• Cymeradwyo’r gyllideb ddisymud o £132.337m ar gyfer 2018/19 ac y dylai hyn fod yn sail ar gyfer cyllideb refeniw 2018/19 (paragraff 7.1 yr adroddiad);
• Bod y swm a neilltuwyd i brosiectau tai drwy’r premiwm ar gyfer tai gwag ac ail gartrefi yn aros ar yr un lefel â 2017/18 yn unol â pharagraff 9.2 yr adroddiad);
• Y dylai'r Pwyllgor Gwaith geisio gwneud digon o arbedion yn 2018/19 i gydbwyso'r gyllideb refeniw heb orfod defnyddio cronfeydd wrth gefn cyffredinol ac er mwyn sicrhau bod yr arbedion y mae angen eu gwneud yn 2019/20 yn gyraeddadwy (paragraff 9.6 yr adroddiad);
• Bod y Pwyllgor Gwaith yn ceisio barn y cyhoedd ar yr arbedion arfaethedig ac yn gofyn am awgrymiadau ar gyfer cynhyrchu incwm.
• Bod y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 yn ei ymateb i’r datganiad ar y setliad refeniw dros dro yn gofyn am eglurhad gan Lywodraeth Cymru ynghylch y swm a fydd yn cael ei ddyrannu i Ynys Môn o’r £42m a’r £62m sydd wedi ei neilltuo ar gyfer Cymru gyfan ar gyfer cynyddu’r ddarpariaeth ar gyfer ysgolion a gofal cymdeithasol yn y drefn honno.
• Bod Arweinydd y Cyngor yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i fynegi pryderon y Pwyllgor Gwaith ynghylch diffyg tryloywder mewn perthynas â’r gostyngiad mewn rhai grantiau cyfalaf a fydd yn cael sgil-effaith ar y gyllideb refeniw, e.e. gwastraff a thrafnidiaeth ynghyd â diffyg eglurder o ran y cynnydd yn y ddarpariaeth ar gyfer elfennau ysgol a gofal cymdeithasol y cyfeirir atynt uchod.
Cofnodion:
Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaith – adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 ar y Gyllideb Refeniw ddrafft ar gyfer 2018/19.
Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid bod y cynigion drafft cychwynnol ar gyfer Cyllideb Refeniw 2018/19 yn dod â cham cyntaf y broses o osod y gyllideb i ben. Mae hyn wedi golygu mewnbwn sylweddol gan Swyddogion ac Aelodau Etholedig mewn cyfarfodydd adolygu gwasanaeth a gweithdai cyllideb sydd wedi arwain at nodi oddeutu £3.3m o arbedion. Mae’r gwaith paratoadol wedi bod yn heriol ac mae’r Cyngor yn dal i wynebu diffyg posibl o £2m yng nghyllideb 2018/19 wedi cymryd i ystyriaeth y pwysau y mae’n rhaid iddo ymdopi â hwy o safbwynt chwyddiant cyflogau, chwyddiant cyffredinol, y cyflog byw cenedlaethol, gostyngiad mewn grantiau a phwysau eraill. Mae’r rhestr ddrafft o gynigion ar gyfer arbedion yn cynnwys nifer o opsiynau gyda hynny’n cynnig rhywfaint o hyblygrwydd o ran y penderfyniadau y bydd angen eu gwneud. Mae’n bwysig bod y Cyngor yn cyflwyno cyllideb gytbwys ar gyfer 2018/19, nid yn lleiaf oherwydd yr heriau ariannol sy’n debygol o godi yn y blynyddoedd dilynol a’r angen i’r Cyngor fod yn barod amdanynt. Er bod y setliad dros dro i Lywodraeth Leol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn well na’r disgwyl i Ynys Môn, mae dal yn cynrychioli gostyngiad o 0.1% o gymharu â setliad 2017/18. Wedi cymryd i ystyriaeth yr holl newidiadau, addasiadau a chyfrifoldebau newydd, mae’r gyllideb ddigyfnewid ar gyfer 2018/19 yn £132.337m, cynnydd o £6.179m o gymharu â chyllideb derfynol 2017/18 sy’n golygu y bydd raid i’r Cyngor, er mwyn sicrhau cyllideb gytbwys, gwrdd â’r holl anghenion o’r gwasanaethau eu hunain a hynny ar ffurf toriadau, cynnydd mewn ffioedd neu arbedion effeithlonrwydd pellach. Mae’r cynigion yn cynnwys cynnydd o 4% yn y Dreth Gyngor ynghyd ag 1% yn ychwanegol i gyllido pwysau yn y Gwasanaethau Cymdeithasol. Bydd yr ymgynghori cyhoeddus ar y cynigion cyllidebol yn cychwyn yn syth ar ôl y cyfarfod hwn ac yn parhau hyd ddiwedd Rhagfyr; bydd yr adborth o’r broses hon ynghyd â ffigyrau’r setliad terfynol gan Lywodraeth Cymru yn siapio’r cynigion terfynol ar y gyllideb a fydd yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith, Sgriwtini ac yna i’r Cyngor Llawn ar gyfer eu cymeradwyo ddiwedd mis Chwefror 2018.
Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151, er bod y setliad dros dros yn well nag a ragdybiwyd yn y Cynllun Ariannol ar gyfer y tymor Canol gan olygu bod y bwlch cyllido yn £2m yn hytrach na £4m, erys risgiau sylweddol i’r gyllideb. Mae’r risgiau hyn yn cynnwys pwysau mewn perthynas â thâl – mae pwysau arbennig ar gyflogau’r sector cyhoeddus ac os na fydd Llywodraeth Ganolog neu Lywodraeth Cymru’n cwrdd â’r rhain, bydd y Cyngor yn gorfod eu hysgwyddo. Rhagwelir y bydd gorwariant o oddeutu £2m ar gyllideb gyfredol 2017/18 yn bennaf oherwydd pwysau sy’n gysylltiedig â’r galw am wasanaethau yn y Gwasanaethau Plant; nid yw’r gyllideb ddigyfnewid yn gwneud darpariaeth ar gyfer y gorwariant hwn, felly bydd angen gweithio i ddod ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4