Mater - cyfarfodydd

Budget Consultation Plan 2017/18

Cyfarfod: 06/11/2017 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 2)

2 Cynllun Ymgynghori Cyllideb 2018/19 pdf eicon PDF 824 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Trawsnewid Corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Cynllun Ymgynghori ar y Gyllideb am 2018/19 ar gyfer ei weithredu yn ystod y cyfnod o’r wythnos yn cychwyn 6 Tachwedd 2017 hyd at 29 Rhagfyr 2017. 

Cofnodion:

Cyflwynwyd ar gyfer ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith – adroddiad gan y Pennaeth Trawsnewid Corfforaethol yn cynnwys cynllun arfaethedig ar gyfer cynnal proses o ymgynghori cyhoeddus ar y cynigion mewn perthynas â Chyllideb 2018/19 yn ystod y cyfnod o’r wythnos sy’n cychwyn 6 Tachwedd hyd 29 Rhagfyr 2017.

 

Dywedodd y Cadeirydd bod y Cynllun arfaethedig ar gyfer Ymgynghori ar y Gyllideb yn debyg i’r cynllun a fabwysiadwyd i’r un perwyl yn 2017/18. Mae’r Cynllun yn cymryd ymagwedd traws-sector gyda’r bwriad o gyflwyno sylwadau’r dinasyddion drwy amrediad o sianelau a chyfryngau. Roedd y cynllun arfaethedig wedi cael ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn y cyfarfod ar y Gyllideb a gynhaliwyd yr wythnos flaenorol; roedd cynrychiolwyr o Llais Ni (sef Cyngor Ieuenctid Ynys Môn) a’r Panel Dinasyddion yn bresennol yn y cyfarfod hwnnw ac maent yn ystyried yn awr y modd y byddant yn cyfrannu at y broses ymgynghori. Yn ychwanegol at hyn, mae sefydliadau ieuenctid yr Ynys yn ystyried cynnal sesiwn ar y cyd yn hytrach na chyfarfod ar wahân a bydd y rhaglen ymgynghori yn adlewyrchu eu hanghenion.

 

Dywedodd y Pennaeth Trawsnewid Corfforaethol bod y Cynllun Ymgynghori’n ffrwyth gwaith a wnaed gan y Bwrdd Ymgysylltu ac Ymgynghori Corfforaethol sy’n cynnwys cynrychiolwyr partneriaid megis Llais Ni a Medrwn Môn. Mae’r Bwrdd wedi adolygu’r broses ymgynghori a gynhaliwyd ar y gyllideb llynedd ac wedi cymryd i ystyriaeth sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol gyda golwg ar wella’r broses eleni. Dywedodd y Swyddog ei fod yn hyderus y byddai’r ymagwedd draws-sector hon a’r defnydd cynyddol o’r cyfryngau cymdeithasol, yn gwella cyfranogiad ac ymateb y dinasyddion ac o’r herwydd yn helpu i siapio’r gyllideb ar gyfer 2018/19. Mae’r gwasanaeth wedi sicrhau bod yr adnoddau sydd eu hangen i gefnogi’r gynllun ac i ymateb i’r cynnydd yn y mewnbwn drwy’r cyfryngau cymdeithasol yn eu lle fel rhan o’r broses eleni sydd wedi cyrraedd y pwynt a nodwyd gan y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Cynllun Ymgynghori ar y Gyllideb am 2018/19 ar gyfer ei weithredu yn ystod y cyfnod o’r wythnos yn cychwyn 6 Tachwedd 2017 hyd at 29 Rhagfyr 2017.