Mater - cyfarfodydd

CSSIW Inspection of Children's Services in Anglesey - Improvement Plan - Quarterly Progress Report

Cyfarfod: 27/11/2017 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 13)

13 Arolygiad AGGCC o’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn Ynys Môn – Adroddiad Cynnydd Chwarterol pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Plant.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd cadarnhau bod y Pwyllgor Gwaith yn fodlon gyda’r camau a gymerwyd gan y Gwasanaethau Plant a chyflymder y broses mewn perthynas â’r cynnydd a wnaed gyda’r Cynllun Gwella Gwasanaeth.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried gan y Pwyllgor, adroddiad y Pennaeth Dros Dro ar gyfer y Gwasanaethau Plant yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu Cynllun Gwella'r Gwasanaethau Plant.

 

Dywedodd y Cadeirydd a'r Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol fod y gwaith o ailstrwythuro'r Gwasanaeth wedi cael ei wneud a bod hynny wedi arwain at grwpiau ymarfer llai a arweinir gan Arweinydd Ymarfer, sy’n hwyluso mynediad at gyngor, cymorth ac arweiniad gan  reolwyr. Mae'r Tîm Teuluoedd Gwydn bellach wedi'i staffio'n llawn ac mae'n gweithio gydag 8 o deuluoedd i atal teuluoedd rhag chwalu ac i gefnogi plant sy'n byw gartref. Mae’r gwaith recriwtio yn mynd rhagddo a phenodwyd Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer Ymyrraeth Gynnar ac Ataliaeth ac Arweinwyr Ymarfer. Maent oll wedi cychwyn yn eu swyddi ers diwedd yr haf / dechrau’r hydref. Mae saith o weithwyr cymdeithasol newydd wedi cael eu recriwtio hefyd.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethu a Thrawsnewid Prosesau Busnes / Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol) bod y broses wella ar y trywydd iawn; mae gweithgareddau'n parhau i ganolbwyntio ar wella ymarfer gwaith cymdeithasol fel elfen allweddol ar gyfer gwella gwasanaethau i deuluoedd a'u plant yn ogystal â chost-effeithiolrwydd  cyffredinol. Er bod yr adroddiad yn adlewyrchu'r sefyllfa fel yr oedd ym mis Hydref , 2017 ‘roedd y Cynllun Gwella a oedd ynghlwm yn dangos y cynnydd hyd at Awst, 2017; caiff y cynllun gwella ei ddiweddaru yn unol â hynny a chyflwynir y fersiwn wedi'i diweddaru i'r Pwyllgor Sgriwtini a'r Pwyllgor Gwaith. Paratowyd adroddiad cynnydd hefyd ar gyfer AGGCC flwyddyn ar ôl yr  arolygiad gwreiddiol; bydd Panel Gwella Gwasanaethau Plant yn rhoi sylw i’r adroddiad hwnnw a rhoddir diweddariad i'r Pwyllgor Sgriwtini a'r Pwyllgor Gwaith yn y Flwyddyn Newydd .

 

Adroddodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn ôl o gyfarfod y Pwyllgor ar 13 Tachwedd. Er bod y Pwyllgor wedi nodi bod swyddi yn parhau i fod yn wag yn y gwasanaeth fel y nodwyd gan y Panel Gwella Gwasanaethau Plant, cadarnhaodd bod y Pwyllgor yn fodlon â chyflymder a chynnydd y gwelliant. Roedd y Pwyllgor hefyd wedi awgrymu y gallai ymagwedd fwy rhagweithiol tuag at recriwtio sicrhau gwell canlyniadau trwy gysylltu yn uniongyrchol ag ysgolion a phrifysgolion. Dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones ei fod eisiau cydnabod y weledigaeth a'r gwaith caled a oedd wedi dod â'r gwasanaeth cyn belled.

 

Penderfynwyd cadarnhau bod y Pwyllgor Gwaith yn fodlon gyda’r camau a gymerwyd gan y Gwasanaethau Plant a chyflymder y broses mewn perthynas â’r cynnydd a wnaed gyda’r Cynllun Gwella Gwasanaeth.