11 Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion PDF 186 KB
11.1 49C219A – 44 Parc Newlands, Y Fali
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
11.1 49C219A - Cais llawn am addasiadau ac estyniadau yn 44 Newlands Park, y Fali
Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amod a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Cofnodion:
11.1 49C219A - Cais llawn am addasiadau ac estyniadau yn 44 Newlands Park, y Fali
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i swyddog perthnasol fel y diffinnir hynny ym mharagraff 4.6.10 yng Nghyfansoddiad y Cyngor.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais ar gyfer newidiadau ac estyniad yng nghefn 44 Newlands Park. Bydd yr estyniad yn ffurfio ystafell haul newydd a fydd yn edrych dros ardd yr ymgeisydd a'r cae gwag y tu ôl i’r annedd. O'r herwydd nid ystyrir y bydd y cynllun arfaethedig yn effeithio ar unrhyw eiddo cyfagos i'r fath raddau y gellid cyfiawnhau gwrthod y cais. Nid ystyrir ychwaith y bydd maint a dyluniad y cynnig yn cael effaith ar gymeriad yr annedd bresennol, yr ardal gyfagos na'r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Felly, argymhellir cymeradwyo'r cais.
Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog; eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Shaun Redmond.
Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amod a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig.