4 Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith PDF 749 KB
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd cadarnhau Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod Gorffennaf, 2018 i Chwefror, 2019 wedi ei diweddaru fel y’i chyflwynwyd.
Cofnodion:
Cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ei gymeradwyo – adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn cynnwys Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod rhwng Gorffennaf 2018 a Chwefror 2019.
Dywedodd y Rheolwr Sgriwtini bod dau newid i’r Flaen Raglen Waith ers y cyfnod adrodd diwethaf, sef –
• Eitem 16 - Mae Protocol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cael ei ail-raglennu o gyfarfod y Pwyllgor Gwaith a gynhelir ar 16 Gorffennaf, 2018 a bydd yn cael ei ystyried yn awr yn y cyfarfod ar 17 Medi, 2018.
• Eitem 28 – Mae Cyllideb 2019/20 yn newydd i’r Flaen Raglen Waith ac fe’i hystyrir gan y Pwyllgor Gwaith yn y cyfarfod ar 18 Chwefror, 2019.
Yn ychwanegol at hyn, dywedodd y Rheolwr Sgriwtini y bydd angen trefnu cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Gwaith yn fuan er mwyn ystyried Bid Bargen Twf Gogledd Cymru.
Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod Gorffennaf, 2018 i Chwefror, 2019 wedi ei diweddaru fel y’i cyflwynwyd.