8 Adroddiad Alldro Cyfalaf 2017/18 PDF 645 KB
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
· Nodi sefyllfa alldro ddrafft Rhaglen Gyfalaf 2017/18 yn amodol ar archwiliad, a
· Chymeradwyo cario £9.348m drosodd i 2018/19 ar gyfer tanwariant ar y rhaglen oherwydd llithriad. Bydd y cyllid ar gyfer hyn hefyd yn cael ei gario drosodd i 2018/19.
Cofnodion:
Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaith – adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol y Gyllideb Gyfalaf ar gyfer blwyddyn ariannol 2017/18.
Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod y Cyngor ym mis Chwefror, 2017, wedi cymeradwyo Rhaglen Gyfalaf o £30.614m am 2017/18 ar gyfer gwasanaethau nad oeddynt yn ymwneud â thai a Rhaglen Gyfalaf o £9.889m ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r tabl ym mharagraff 1.3 yr adroddiad yn rhoi manylion am y rhaglen gyfalaf a gymeradwywyd ar gyfer 2017/18 ynghyd â’r ymrwymiadau a ddygwyd ymlaen o 2016/17. Y gyllideb ar gyfer y Gronfa Gyffredinol oedd £39.800m a dim ond £20.064m oedd wedi ei wario ar 31 Mawrth, 2018 sy’n cyfateb i 50% o’r gyllideb. Y prif reswm am y tanwariant cyffredinol oedd y tanwariant mawr yn erbyn y saith prosiect mawr a restrwyd ym mharagraff 2.2 yr adroddiad. Bydd cyfan o’r cynlluniau cyfalaf hyn yn cario drosodd i 2018/19 ynghyd â’r cyllid ar eu cyfer.
Cadarnhaodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 nad oedd unrhyw gyllid wedi cael ei golli oherwydd llithriad a bod yr arian yr oedd angen i’r Cyngor ei wario erbyn diwedd y flwyddyn ariannol wedi cael ei wario.
Penderfynwyd –
• Nodi sefyllfa alldro ddrafft Rhaglen Gyfalaf 2017/18 yn amodol ar archwiliad, a
• Chymeradwyo cario £9.348m drosodd i 2018/19 ar gyfer tanwariant ar y rhaglen oherwydd llithriad. Bydd y cyllid ar gyfer hyn hefyd yn cael ei gario drosodd i 2018/19.