Mater - cyfarfodydd

Capital Budget Monitoring Report - Quarter 4, 2017/18

Cyfarfod: 18/06/2018 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 8)

8 Adroddiad Alldro Cyfalaf 2017/18 pdf eicon PDF 645 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd

 

·        Nodi sefyllfa alldro ddrafft Rhaglen Gyfalaf 2017/18 yn amodol ar archwiliad, a

·        Chymeradwyo cario £9.348m drosodd i 2018/19 ar gyfer tanwariant ar y rhaglen oherwydd llithriad. Bydd y cyllid ar gyfer hyn hefyd yn cael ei gario drosodd i 2018/19.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaithadroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol y Gyllideb Gyfalaf ar gyfer blwyddyn ariannol 2017/18.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod y Cyngor ym mis Chwefror, 2017, wedi cymeradwyo Rhaglen Gyfalaf o £30.614m am 2017/18 ar gyfer gwasanaethau nad oeddynt yn ymwneud â thai a Rhaglen Gyfalaf o £9.889m ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r tabl ym mharagraff 1.3 yr adroddiad yn rhoi manylion am y rhaglen gyfalaf a gymeradwywyd ar gyfer 2017/18 ynghyd â’r ymrwymiadau a ddygwyd ymlaen o 2016/17. Y gyllideb ar gyfer y Gronfa Gyffredinol oedd £39.800m a dim ond £20.064m oedd wedi ei wario ar 31 Mawrth, 2018 sy’n cyfateb i 50% o’r gyllideb. Y prif reswm am y tanwariant cyffredinol oedd y tanwariant mawr yn erbyn y saith prosiect mawr a restrwyd ym mharagraff 2.2 yr adroddiad. Bydd cyfan o’r cynlluniau cyfalaf hyn yn cario drosodd i 2018/19 ynghyd â’r cyllid ar eu cyfer.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 nad oedd unrhyw gyllid wedi cael ei golli oherwydd llithriad a bod yr arian yr oedd angen i’r Cyngor ei wario erbyn diwedd y flwyddyn ariannol wedi cael ei wario.

 

Penderfynwyd

 

 Nodi sefyllfa alldro ddrafft Rhaglen Gyfalaf 2017/18 yn amodol ar archwiliad, a

  Chymeradwyo cario £9.348m drosodd i 2018/19 ar gyfer tanwariant ar y rhaglen oherwydd llithriad. Bydd y cyllid ar gyfer hyn hefyd yn cael ei gario drosodd i 2018/19.