Mater - cyfarfodydd

CIW Inspection of Children's Services in Anglesey - Improvement Plan - Quarterly Progress Report

Cyfarfod: 18/06/2018 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 5)

5 Adroddiad Cynnydd ar y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Plant.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd cadarnhau bod y Pwyllgor Gwaith yn fodlon gyda’r canlynol -

 

·        Y camau a gymerwyd i fynd ati i weithredu Cynllun Gwella’r Gwasanaeth a chyflymder y cynnydd.

·        Cyflymder y cynnydd a’r gwelliannau a wnaed hyd yma o fewn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaithadroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma o ran gweithredu Cynllun Gwella’r Gwasanaeth.

 

Dywedodd yr Arweinydd a’r Aelod Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol bod y Gwasanaeth, yn ystod y cyfnod ers arolygiad AGC o’r Gwasanaethau Plant wedi bod yn brysur yn sefydlu cyfres o newidiadau pwysig a fydd, fe dybir, yn darparu gwasanaethau a fydd yn cydymffurfio’n well â deddfwriaeth. Disgrifir y rhain yn yr adroddiad gyda phwyslais penodol ar ailstrwythuro’r Gwasanaeth yn canolbwyntio ar Ymyrraeth Gynnar ac Atal ac Ymyrraeth Ddwys; datblygu Strategaeth Atal gyda’r nod o leihau angen ar bob lefel; datblygu systemau a phrosesau ac ansawdd a chysondeb Ymarfer. Mae’r Panel Gwella Gwasanaethau Plant yn cyfarfod yn fisol ac wedi bod yn craffu yn ofalus y cynnydd a wnaed o ran gweithredu’r Cynllun Gwella Gwasanaeth.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd y gwnaed llawer iawn o waith ar bob lefel o’r Gwasanaeth, mae’r gwaith yn mynd rhagddo ac yn dechrau dwyn ffrwyth. Mae’r Gwasanaeth angen cyfnod yn awr i ganolbwyntio ar agweddau ymarferol Gwaith Cymdeithasol er mwyn bwrw ymlaen â chynlluniau; at ei gilydd, mae’r Gwasanaeth ar y trywydd iawn ac yn symud i’r cyfeiriad iawn.

 

Nododd y Pwyllgor Gwaith y diweddariad ar gynnydd a gofynnodd am sicrwydd ynglŷn â’r pwyntiau canlynol -

 

  Nododd y Pwyllgor Gwaith y bu’n flaenoriaeth i’r Gwasanaeth ddatblygu Strategaethau Atal ac Ymyrraeth Gynnar a bod gweithredu’r strategaethau hyn yn arwain at welliannau. O’r herwydd, gofynnodd y Pwyllgor Gwaith am eglurhad ar effaith y gwaith hwn o ran nifer yr achosion lle cymerwyd camau ymyrraeth gynnar yn ystod y chwe mis diwethaf ac a oedd hynny wedi arwain at well canlyniadau i’r Gwasanaeth ac i blant a theuluoedd.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, er bod nifer y cyfeiriadau i’r Gwasanaeth wedi aros yn gyson, mae’r Gwasanaeth wedi medru ymateb mewn gwahanol ffyrdd yn dilyn cyfeiriad, e.e. drwy wneud defnydd cynyddol o ymatebion y Tîm o Amgylch y Teulu (TAT). Mae capasiti’r TAT wedi cael ei gynyddu o dri i chwe swyddog sydd, y cyfan ohonynt, â baich achosion llawn. Drwy ymyrryd yn y modd hwn, mae anghenion teuluoedd yr ystyrir eu bod yn fregus ac a fyddai fel arall yn cael sylw drwy’r system Gwaith Cymdeithasol, yn cael eu lleihau cyn iddynt ddod yn fwy difrifol. Mae’r Tîm Teuluoedd Gwydn hefyd wedi bod yn gweithio gyda phump o deuluoedd mewn modd rhagweithiol a hynny wedi arwain at ddelio gydag anghenion 8 o blant heb iddynt orfod mynd i mewn i’r system ofal. Yn ychwanegol at hyn, mae’r Gwasanaeth wedi bod yn adolygu achosion a lle mae’n briodol, wedi bod yn rhyddhau Gorchmynion Gofal fel y gall plant ddychwelyd i fyw gyda’u teuluoedd heb gael eu rhoi mewn gofal.

 

  Gofynnodd y Pwyllgor Gwaith am eglurhad ynghylch a yw’r Gwasanaethau  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5