Mater - cyfarfodydd

Public Services Ombudsman for Wales Decisions

Cyfarfod: 12/09/2018 - Pwyllgor Safonau (Eitem 7)

7 Penderfyniadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru pdf eicon PDF 253 KB

Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar benderfyniadau diweddaraf OGCC yng Nghymru.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar Goflyfr chwarterol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC) o gwynion yn ymwneud â’r Côd Ymddygiad.  

 

Roedd yr adorddiad yn cynnwys manylion am y cwynion yr ymchwiliodd yr Ombwdsmon iddynt mewn perthynas ag achosion yn honni fod Cynghorwyr wedi torri’r Côd Ymddygiad ar gyfer Aelodau a hynny’n unol â’i Goflyfrau ar gyfer Ionawr a Mai 2018.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod yr Ombwdsmon wedi codi’r trothwy o ran y materion y mae’n fodlon ymchwilio iddynt. Nodwyd ei fod yn awr yn canolbwyntio ar y cwynion mwyaf difrifol ac yn trin y rhan fwyaf o faterion rhwng Aelodau/Cynghorwyr Tref a Chymuned fel rhai lefel isel nad ydynt yn cwrdd â’i drothwy ar gyfer ymchwiliad.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad a’r atodiadau ynddo.            

           

Gweithred: Dim