2 Strategaeth Addysg Ynys Môn - Moderneiddio Ysgolion (Diweddariad 2018) PDF 1 MB
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
· Mabwysiadu Strategaeth Addysg Ynys Môn – Moderneiddio Ysgolion (Diweddariad 2018) fydd yn weithredol o 15 Hydref, 2018 ymlaen.
· Bod Swyddogion yn cychwyn y broses o ymgynghori yn ardaloedd Band “B” dros y 12 mis nesaf.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Dysgu a oedd yn cynnwys diweddariad ar Strategaeth Addysg Moderneiddio Ysgolion Ynys Môn ar gyfer ystyriaeth a chymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith.
Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant ac Ieuenctid, ers cyhoeddi’r strategaeth wreiddiol yn 2013, bod yr Awdurdod wedi cydweithio â Phenaethiaid ysgolion ac Aelodau Etholedig er mwyn moderneiddio’r stoc ysgolion ar yr Ynys a hynny drwy gyfuno 10 o ysgolion cynradd llai ac adeiladu ysgolion 21ain Ganrif mewn tair ardal o fewn Band A gyda’r ddiweddaraf i agor ym Mawrth, 2019. Erbyn diwedd rhaglen Band A ym mis Ebrill, 2019 bydd dros 10% o blant ysgol gynradd Ynys Môn yn derbyn eu haddysg mewn adeiladau’r 21ain Ganrif a bydd nifer y lleoedd gwag yn ysgolion cynradd Ynys Môn wedi lleihau 10% - gostyngiad o dros 17% dros chwe mlynedd. Yn y sector uwchradd, mae’r gostyngiad yn niferoedd disgyblion a’r cynnydd mewn lleoedd gwag ynghyd â’r toriadau ariannol wedi golygu heriau cyllidebol sylweddol ar draws y sector a bydd yn debygol o barhau neu hyd yn oed waethygu dros y blynyddoedd nesaf. O ganlyniad, ac oherwydd rhaglen cyni ariannol parhaus y Llywodraeth Ganolog sy’n golygu bod yn rhaid i’r Gwasanaeth Dysgu ddod o hyd i arbedion o £5 Miliwn dros y dair blynedd nesaf, mae angen adolygu’r Strategaeth Moderneiddio Ysgolion sydd hefyd yn amserol gan y bydd rhaglen Band B yn dechrau yn Ebrill, 2019.
Dywedodd yr Aelod Portffolio bod Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn darparu cyfle i foderneiddio ysgolion Ynys Môn ymhellach ac i ddod o hyd i atebion lleol i broblemau lleol. Mae’r adroddiad yn nodi’r amserlen ar gyfer gweithredu ar y Strategaeth sydd wedi’i diweddaru ac hefyd yn ymhelaethu ar y gyrwyr ar gyfer newid ar gyfer y rhaglen Band B sydd wedi eu haddasu o’r rhai hynny a ddefnyddiwyd ar gyfer Band A. Rhagwelir y bydd yn rhaid blaenoriaethu dalgylch Ysgol Syr Thomas Jones o fewn Band B ac er bod potensial ar gyfer cynnydd yn y boblogaeth honno o ganlyniad i ddatblygiad Wylfa Newydd lle rhagwelir hyd at 200 o ddisgyblion ychwanegol, bydd yn rhaid rhoi ystyriaeth i wneud newidiadau er mwyn sefydlu trefniadau addysgol sy’n briodol ar gyfer y dyfodol. Yn fwy na hynny, bydd angen blaenoriaethu’r ddarpariaeth addysg ôl-16 a hynny am y rhesymau a amlinellir yn yr adroddiad.
Bu’r Aelod Portffolio gloi drwy ddweud bod y bum mlynedd ddiwethaf wedi bod yn gyfnod cyffrous ar gyfer moderneiddio ysgolion a bod yn rhaid i’r Awdurdod fanteisio ar y cyfle cyn y bydd yn parhau â’i raglen gwelliant er mwyn sefydlu system ysgolion sy’n addas ar gyfer y 30 i 50 mlynedd nesaf er mwyn i blant yr Ynys gael y cyfle gorau i ffynnu a gwneud y gorau o’r cyfleoedd byd gwaith sydd ar y gorwel – ni fydd y genhedlaeth nesaf yn diolch i’r Awdurdod am beidio â gweithredu ar y cyfle hwn. Mae gweledigaeth y Cyngor ar gyfer addysg yn gyson â’i Gynllun Corfforaethol o ran gwneud ymrwymiad i weithio gyda phobl Ynys ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2