Mater - cyfarfodydd

Departure Applications

Cyfarfod: 07/11/2018 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 10)

10 Ceisiadau'n Gwyro pdf eicon PDF 622 KB

10.1 28C477B – Fferm Pencarnisiog, Pencarnisiog

 

10.2 33C182E/VAR – Berw Uchaf, Gaerwen

 

10.3 36C344C/VAR – Ysgol Henblas, Llangristiolus

 

10.4 46C410H – Garreg Fawr, Lôn Garreg Fawr, Trearddur

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

10.1    28C477B – Cais llawn ar gyfer codi 4 annedd (1 fforddiadwy) ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau a cherddwyr ar dir yn Fferm Pencarnisiog, Pencarnisiog.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a’r adroddiad a gyda’r amodau a oedd wedi eu cynnwys ac yn amodol ar Gytundeb Cyfreithiol Adran 106 ar gyfer un annedd fforddiadwy a thalu’r cyfraniad angenrheidiol i addysg. 

 

10.2            3C182E/VAR – Cais dan Adran 73A i amrywio amodau (03) (gwaith lliniaru), (08) (cau’r fynedfa gyfredol) a (09) (cynlluniau) o ganiatâd cynllunio cyfeirnod 33C182D (addasu adeilad allanol yn annedd ynghyd â chreu mynedfa) er mwyn newid y gorffenwaith ynghyd â chyflwyno manylion am ecoleg, trwydded liniaru a chau’r fynedfa wedi i’r gwaith gychwyn yn Berw Uchaf, Gaerwen.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog a gyda’r amodau a oedd wedi eu cynnwys ynddo.

 

10.3        36C344B/VAR – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (07) o ganiatâd cynllunio rhif 36C344B/VAR (Cynlluniau Diwygiedig i godi annedd) er mwyn gallu cyflwyno manylion draenio ar ôl i waith gychwyn ar dir cyferbyn ag Ysgol Henblas, Llangristiolus

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog a gyda’r amodau a oedd wedi eu cynnwys ynddo.

 

10.4    46C410H – Cais llawn ar gyfer codi annedd sydd yn cynnwys ardal teras wedi ei decio ar dir ger Garreg Fawr, Lôn Garreg Fawr, Bae Trearddur.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog a gyda’r amodau a oedd wedi eu cynnwys ynddo.

 

 

Cofnodion:

10.1 28C477B – Cais llawn ar gyfer codi 4 annedd (1 fforddiadwy) ynghyd a chreu mynedfa i gerbydau a cherddwyr ar dir yn Pencarnisiog Farm, Pencarnisiog

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am fod rhan o safle’r cais tu allan i ffin ddatblygu Pencarnisiog - ac o’r herwydd mae’n groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cydond mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol â’i fryd ar ei ganiatáu.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod cynllun y safle’n dangos, er bod ôl-troed a chwrtil yr anheddau arfaethedig yn gorwedd o fewn y ffin ddatblygu, mae rhan o’r ffordd fynediad a’r trefniadau draenio tu allan i’r ffin ddatblygu. Rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer codi dau annedd gyda’r lle parcio a’r trefniadau draenio mewn safle tebyg o dan bolisïau'r Cynllun Datblygu blaenorol felly o ran gosodiad y cynnig nid yw’n annhebyg i’r hyn y mae caniatâd yn bodoli ar ei gyfer yn barod ynghyd â 2 annedd ychwanegol. Ystyrir bod y datblygiad arfaethedig yn dderbyniol yn ei leoliad o ran ei osodiad, ymddangosiad a graddfa ac nid yw’n cael unrhyw effaith negyddol ar amwynderau eiddo preswyl sy’n bodoli eisoes nac ar yr ardal ehangach. Fel rhan o’r cynnig, mae’r ymgeisydd wedi cadarnhau y bydd 7 o lefydd parcio ar gael yn nhu blaen safle’r cais yn ogystal â llefydd parcio yn y cefn - bydd y llefydd parcio hyn ar gael er mwyn i rieni allu gollwng a chodi eu plant o’r ysgol gynradd gyfagos. Fel rhan o’r cynnig, bydd cyfraniad o £11,024.79 yn cael ei wneud i’r Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes.

 

Darllenodd y Swyddog sylwadau'r Cynghorydd Richard Dew, Aelod Lleol (a oedd, oherwydd ymrwymiad arall, wedi gadael y cyfarfod cyn i’r cais hwn gael ei ystyried) yn cadarnhau nad oedd ganddo ef nac Ysgol Pencarnisiog unrhyw wrthwynebiad i’r datblygiad a’i fod yn croesawu’r ddarpariaeth tai fforddiadwy fel rhan o’r cynnig.

 

Gorffennodd y Swyddog drwy ddweud, gan mai darn bach yn unig o safle’r cais sydd tu allan i’r ffin ddatblygu ac o ystyried manteision y cynnig o safbwynt darparu fforddiadwy a chyfraniad i addysg, yr argymhelliad oedd caniatáu’r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Bryan Owen bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog; eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a’r adroddiad a gyda’r amodau a oedd wedi eu cynnwys ac yn amodol ar Gytundeb Cyfreithiol Adran 106 ar gyfer un annedd fforddiadwy a thalu’r cyfraniad angenrheidiol i addysg. 

 

10.2            3C182E/VAR – Cais dan Adran 73A i amrywio amodau (03) (gwaith lliniaru), (08) (cau’r fynedfa gyfredol) a (09) (cynlluniau) o ganiatâd cynllunio cyfeirnod 33C182D (addasu adeilad allanol yn annedd ynghyd â chreu mynedfa) er mwyn newid y gorffenwaith ynghyd â chyflwyno manylion am ecoleg, trwydded liniaru a chau’r fynedfa wedi i’r gwaith gychwyn yn Berw  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10