10 Ceisiadau'n Gwyro PDF 390 KB
10.1 43C182F/VAR – Troiad y Llanw, Rhoscolyn
10.2 49C308A/DEL – Capel Hermon, Llanynghenedl
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
10.1 43C182F/VAR – Cais o dan Adran 73A i ddiwygio amod (10) (cynlluniau a gymeradwywyd) o ganiatâd cynllunio rhif 43C182A (codi annedd gyda balcony ynghyd a chodi modurdy ar wahan) fel y gellir gwneud newidiadau i ddyluniad y modurdy wedi i’r gwaith gychwyn ar y safle ar dir ger Troiad y Llanw, Rhoscolyn
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
10.2 49C308A/DEL – Cais o dan Adran 73a i dynnu amod (03) (mynedfa a lle parcio) o ganiatâd cynllunio rhif 49C308 (Cais ôl-weithredol i gadw newid defnydd y capel i annedd ynghyd a chreu mynedfa newydd i gerbydau) yn Capel Hermon, Llanynghenedl
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Cofnodion:
10.1 43C182F/VAR - Cais o dan Adran 73A i ddiwygio amod (10) (cynlluniau a gymeradwywyd) o ganiatâd cynllunio rhif 43C182A (codi annedd gyda balconi ynghyd â chodi modurdy ar wahân) fel y gellir gwneud newidiadau i ddyluniad y modurdy wedi i’r gwaith gychwyn ar y safle ar dir ger Troiad y Llanw, Rhoscolyn.
Cyfeiriwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn gais sy’n tynnu’n groes i bolisïau'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond yn un y mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn argymell ei gymeradwyo.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y caniatâd cynllunio gwreiddiol a roddwyd i’r safle hwn wedi’i gymeradwyo ym 1961; roedd y caniatâd ar gyfer codi 14 o anheddau ar y safle. Rhoddwyd caniatâd yn 2015 i godi annedd a garej yn Nhroiad y Llanw, Rhoscolyn ac mae’r cais sydd gerbron y Pwyllgor hwn yn un i amrywio amod 10 er mwyn galluogi addasiadau i ddyluniad y garej.
Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffith.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
10.2 49C308A/DEL – Cais o dan Adran 73a i dynnu amod (03) (mynedfa a lle parcio) o ganiatâd cynllunio rhif 49C308 (Cais ôl-weithredol i gadw newid defnydd y capel i annedd ynghyd a chreu mynedfa newydd i 3 o gerbydau) yn Capel Hermon, Llanynghenedl.
Cyfeiriwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn gais sy’n tynnu’n groes i bolisïau'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond yn un y mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn argymell ei gymeradwyo.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu a Chynllunio fod gan safle’r cais ganiatâd cynllunio sydd eisoes yn bodoli ar y safle ac a ganiatawyd yn Rhagfyr 2012 er mwyn newid defnydd y capel i fod yn annedd. Y cais sydd gerbron y Pwyllgor hwn yw i ddiwygio amod 3 mewn perthynas â’r fynedfa a’r maes parcio. Mae’r ymgeiswyr yn ystyried bod lle parcio digonol yn bodoli o flaen y safle. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod yr Awdurdod Priffyrdd wedi cadarnhau nad oes ganddynt unrhyw wrthwynebiad i ddileu’r amod.
Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Dafydd Roberts.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.