Mater - cyfarfodydd

Fostering Strategy

Cyfarfod: 26/11/2018 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 12)

12 Pecyn Maethu ar gyfer Gofalwyr Maeth yr Awdurdod Lleol pdf eicon PDF 425 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd -

 

·        Bod y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn bwrw ymlaen i gynnig pecyn mwy atyniadol i Ofalwyr Maeth yr Awdurdod Lleol i gynnwys y canlynol -

 

· Cynnydd o 10% yn y lwfans Maethu

· Disgownt o 50% yn y Dreth Gyngor

· Cardiau aelodaeth am ddim ar gyfer y Gwasanaethau Hamdden   yn Ynys Môn

· Tocyn i barcio am ddim ym meysydd parcio’r Cyngor

 

·        Awdurdodi diwygio Polisi Eithrio’r Dreth Gyngor er mwyn adlewyrchu’r disgownt a ganiateir i Ofalwyr Maeth.

 

·        Awdurdodi trosglwyddo’r cyllidebau angenrheidiol o Wasanaethau Plant a Theuluoedd er mwyn talu costau’r buddion ychwanegol sy’n disgyn ar gyllidebau neu wasanaethau eraill.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaithadroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn amlinellu pecyn arfaethedig o fuddion ar gyfer Gofalwyr Maeth ynghyd â goblygiadau hynny o safbwynt cost.

 

Dywedodd y Cadeirydd a’r Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol bod angen buddsoddi i ddarparu pecyn mwy cynhwysfawr o fuddion ar gyfer Gofalwyr Maeth er mwyn recriwtio a chadw mwy o Ofalwyr Maeth er mwyn sicrhau cynnydd yn nifer y lleoliadau sydd ar gael i gwrdd â’r galw cynyddol am leoliadau ar gyfer plant lleol sy’n derbyn gofal. Byddai hyn yn cynnwys Lwfans Maethu Uwch; disgownt Treth Gyngor; cerdyn aelodaeth am ddim gyda Gwasanaethau Hamdden Ynys Môn a thocyn i barcio am ddim ym meysydd parcio’r Cyngor. Mae’r cynigion wedi cael eu cyflwyno i Aelodau’r Cyngor mewn sesiwn friffio ac i’r Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned a’r Panel Gwella Gwasanaethau Plant. 

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd bod nifer o Ofalwyr Maeth yn dewis maethu i asiantaethau preifat oherwydd eu bod yn gallu cynnig taliadau gwell. Mae’n anodd i’r Cyngor gystadlu gyda’r cyfraddau hyn ond dylai cynyddu’r Lwfans Maethu (ond nid yr elfen dâl neu sgiliau) ynghyd â’r buddion ychwanegol eraill y bwriedir eu cynnig, ddenu mwy o Ofalwyr Maeth i’r Cyngor sy’n bwysig o ran cynnig gwell dewis o leoliadau. Ar hyn o bryd, mae’r Cyngor mewn rhai achosion, yn lleoli plant gyda Gofalwyr Maeth preifat drwy asiantaethau preifat sy’n golygu bod y Cyngor yn talu premiwm oherwydd nad oes ganddo ddigon o Ofalwyr Maeth ar ei gofrestr ei hun i gwrdd â’r galw. Dylai cynnig pecyn mwy cystadleuol o lwfansau a buddion ei gwneud yn haws i recriwtio Gofalwyr Maeth gyda hynny, yn ei dro, yn arwain at arbedion. 

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod risg ynghlwm wrth gynyddu’r lwfans maethu oherwydd os nad yw’r Cyngor yn recriwtio digon o Ofalwyr Maeth o’r sector annibynnol i fedru lleihau’r defnydd y mae’n ei wneud o Ofalwyr Maeth Preifat a’r costau cysylltiedig, bydd yn wynebu costau uwch o ganlyniad i’r cynllun hwn.

 

Penderfynwyd -

 

           Bod y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn bwrw ymlaen i gynnig pecyn mwy atyniadol i Ofalwyr Maeth yr Awdurdod Lleol i gynnwys y canlynol -

 

           Cynnydd o 10% yn y lwfans Maethu

           Disgownt o 50% yn y Dreth Gyngor

           Cardiau aelodaeth am ddim ar gyfer y Gwasanaethau Hamdden   yn Ynys Môn

           Tocyn i barcio am ddim ym meysydd parcio’r Cyngor

 

           Awdurdodi diwygio Polisi Eithrio’r Dreth Gyngor er mwyn adlewyrchu’r disgownt a ganiateir i Ofalwyr Maeth.

 

           Awdurdodi trosglwyddo’r cyllidebau angenrheidiol o Wasanaethau Plant a Theuluoedd er mwyn talu costau’r buddion ychwanegol sy’n disgyn ar gyllidebau neu wasanaethau eraill.