6 Strategaeth Rhanbarthol Digartrefedd PDF 3 MB
Cyflwyno adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Tai.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd cymeradwyo’r Strategaeth Digartrefedd Rhanbarthol a’r Cynllun Gwaith Lleol.
Cofnodion:
Cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried – adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Tai yn ymgorffori’r Strategaeth Ranbarthol Digartrefedd a Chynllun Gweithredu Lleol.
Adroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Tai a Chefnogi Cymunedau fod gofyn i bob Awdurdod Lleol, yn ôl y gyfraith, fabwysiadu Strategaeth Digartrefedd yn 2018 er mwyn atal digartrefedd; i ddarparu llety addas i bobl sy’n ddigartref neu rai a allai fynd yn ddigartref, ac i sicrhau bod cefnogaeth ddigonol ar gael i bobl sy’n ddigartref neu rai a allai fynd yn ddigartref. Cyn cynhyrchu’r strategaeth, roedd rhaid i awdurdodau lleol gynnal adolygiad yn unol ag adran 51 Cod Arweiniad Llywodraeth Cymru ar Ddyrannu Llety a Digartrefedd. Roedd gofyn i Awdurdodau Lleol gynnal adolygiad o’r Gwasanaeth Digartrefedd fel sail i gynhyrchu’r Strategaeth. Roedd y Penaethiaid Gwasanaeth trwy Ogledd Cymru wedi cytuno y dylid cynhyrchu Strategaeth Digartrefedd Ranbarthol oherwydd y manteision – fel y nodir yn yr adroddiad – a geid o sefydlu dealltwriaeth a dull ar y cyd tuag at atal digartrefedd.
Dywedodd yr Aelod Portffolio yr hoffai gymryd y cyfle i ddiolch i staff y Gwasanaeth Digartrefedd am eu gwaith a hefyd y Gwasanaeth Tai ehangach am ei gyfraniad tuag at ffurfio’r Strategaeth Digartrefedd Ranbarthol sy’n destament i’r gweithio partneriaeth effeithiol sydd wedi digwydd ar y strategaeth hon.
Adroddodd y Cynghorydd G.O. Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio, ar drafodaethau’r Pwyllgor ar y mater hwn yn ei gyfarfod ar 13 Tachwedd, 2018 fel rhan o ymgynghoriad helaeth a wnaed wrth gynnal adolygiad o’r Gwasanaeth Digartrefedd. Dywedodd y Cynghorydd Jones fod y Pwyllgor, wrth gefnogi ac argymell y Strategaeth a’r Cynllun Gweithredu Lleol i’r Pwyllgor Gwaith ac wrth groesawu’r cydweithio rhanbarthol a oedd wedi digwydd i’w gynhyrchu, wedi codi nifer o bwyntiau er mwyn cael eglurhad arnynt, ac roedd y Swyddogion wedi rhoi sicrwydd i’r Pwyllgor; roedd y pwyntiau hynny’n cynnwys y canlynol –
• Y trefniadau ar gyfer monitro’r strategaeth yn lleol er mwyn sicrhau ei bod yn dal i gwrdd â’i hamcanion.
• P’un a oes unrhyw wahaniaethau yn y modd mae’r Strategaeth yn berthnasol i’r cynghorau hynny sydd wedi cadw cyfrifoldeb am eu stoc tai h.y. Cyngor Sir Ynys Môn o gymharu â’r rheini yn y rhanbarth sydd wedi trosglwyddo eu stoc i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.
• Bod 50% o’r rhai a oedd wedi ymateb i’r ymgynghoriad ar draws y rhanbarth yn teimlo nad oedd staff wastad yn gwrtais neu’n barod eu cymwynas wrth ddelio gyda’r sefyllfaoedd anodd mae pobl yn eu wynebu. Ni chredai’r Pwyllgor fod y Strategaeth yn mynd i’r afael â’r mater hwn; awgrymwyd y gallai Ynys Môn arwain ar anghenion hyfforddiant posib y staff yn y chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru wrth ddelio gyda materion sensitif sy’n gysylltiedig â digartrefedd.
• P’un a yw’r Awdurdod yn gallu ymateb i geisiadau am gymorth – roedd y Pwyllgor wedi nodi bod rheoli disgwyliadau yn cael ei ystyried yn her.
• Yr angen ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6