7.1 14C257 – Cefn Trefor, Trefor
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
7.1 14C257 - Cais amlinellol ar gyfer codi annedd fforddiadwy yn cynnwys manylion llawn am y fynediad i gerbydau a draenio gyda'r holl faterion eraill wedi eu cadw yn ôl ar dir ger Cefn Trefor, Trefor.
Penderfynwyd gohirio ystyried y mater yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddwyd.
Cofnodion:
7.1 14C257 – Cais amlinellol ar gyfer codi annedd fforddiadwy yn cynnwys manylion llawn am y fynediad i gerbydau a draenio gyda'r holl faterion eraill wedi eu cadw yn ôl ar dir ger Cefn Trefor, Trefor.
Pwrpas yr adroddiad i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oedd awgrymu amodau i’w hatodi i’r rhybudd o benderfyniad mewn perthynas â’r cais a gymeradwywyd gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 5 Rhagfyr 2018, yn amodol ar gytundeb Adran 106 er mwyn sicrhau bod yr annedd yn cael ei ddatblygu fel annedd fforddiadwy, yn groes i argymhelliad y swyddog i wrthod caniatâd gan fod y cais yn groes i Bolisi TAI6.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod yr amodau a amlinellir yn adroddiad y Swyddog sydd o flaen y Pwyllgor yn awr yn deillio o natur y cynnig a’r ymatebion i’r ymgynghoriad a gynhaliwyd mewn perthynas â’r cais. Fodd bynnag, mae cwestiwn wedi codi ynglŷn â’r diffiniad o “berson lleol” at ddibenion y cytundeb cyfreithiol sydd hefyd yn ofynnol fel rhan o’r caniatâd cynllunio. Gan fod adroddiad y Swyddog a gyflwynwyd i’r Pwyllgor yn delio â’r amodau cynllunio yn unig, yr argymhelliad yw gohirio ystyried y mater er mwyn caniatáu i adroddiad gael ei baratoi sydd yn rhoi sylw i’r amodau a’r diffiniad o berson lleol mewn perthynas â’r cytundeb cyfreithiol.
Cynigiodd y Cynghorydd Nicola Roberts fod y mater yn cael ei ohirio yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Bryan Owen.
Penderfynwyd gohirio ystyried y mater yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd.