Mater - cyfarfodydd

Development Proposals Submitted by Councillors and Officers

Cyfarfod: 09/01/2019 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 11)

11 Cynigion datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 135 KB

11.1  48C182B/MIN – Bryn Twrog, Gwalchmai

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

11.1 48C182B/MIN - Mân newidiadau i gynllun sydd wedi ei ganiatáu yn flaenorol o dan ganiatâd cynllunio 48C182 er mwyn dileu amodau (12), (13) a (14) (cod cartrefi cynaliadwy) ynghyd â chreu amod newydd (rhaid ymgymryd â'r datblygiad a ganiateir gan y caniatâd hwn yn fanwl yn ôl y cynllun) o dan ganiatâd Cynllunio 48C182A/DA ar dir ger Bryn Twrog, Gwalchmai.

 

Penderfynwyd Cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog.

 

Cofnodion:

11.1    48C182B/MIN – Mân newidiadau i gynllun sydd wedi ei ganiatáu yn flaenorol o dan ganiatâd cynllunio 48C182 er mwyn dileu amodau (12), (13) a (140) (cod cartrefi cynaliadwy) ynghyd â chreu amod newydd (rhaid ymgymryd â’r datblygiad a ganiateir gan y caniatâd hwn yn fanwl yn ôl y cynllun) o dan ganiatâd cynllunio 48C182A/DA ar dir ger Bryn Twrog, Gwalchmai

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod yr ymgeisydd yn perthyn i swyddog perthnasol. Adolygwyd y ffeil gan y Swyddog Monitro.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn cael ei wneud o dan Adran 96A y Ddeddf Gynllunio sy’n ymwneud â diwygiadau ansylweddol i ganiatâd cynllunio a ganiatawyd yn flaenorol er mwyn cynnwys amod yn y caniatâd cynllunio am annedd a roddwyd yn 2014 i nodi bod rhaid ymgymryd â’r datblygiad yn fanwl yn ôl y cynlluniau a gymeradwywyd; pwrpas hyn yw caniatáu i’r ymgeisydd gyflwyno cais dan Adran 73 i amrywio’r dyluniad a gymeradwywyd. Mae’r newidiadau arfaethedig yn berthnasol i’r dyluniad ac nid oes modd ymdrin â nhw o dan y broses bresennol. Dywedodd y Swyddog bod rhaid i Awdurdodau Cynllunio Lleol yn awr gynnwys amod o’r fath gyda’r caniatâd cynllunio a rhestru’r darluniau a gymeradwywyd fel rhan o’r penderfyniad. Felly mae’r diwygiad yn fân newid i’r rhybudd o benderfyniad ac nid yw’n golygu newid sylweddol i’r cais. Yn ogystal, yn dilyn cymeradwyo’r cais gwreiddiol yn 2014, ar 31 Gorffennaf, 2014 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei fod yn tynnu’n ôl y polisi oedd yn ei gwneud yn ofynnol i gynnwys amodau cynllunio i gydymffurfio â’r Côd Cartrefi Cynaliadwy, a bod safonau adeiladu cynaliadwy yn rhan o Reoliadau Adeiladu erbyn hyn. Polisi Llywodraeth Cymru yw bod amodau o’r fath yn cael eu tynnu o ganiatâd cynllunio lle maent yn bodoli o hyd, felly mae’r cais hefyd yn gofyn am ddileu’r amodau Côd Tai Cynaliadwy sydd ynghlwm â’r caniatâd. Nid yw dileu’r amodau hyn yn effeithio ar gymeriad cyffredinol y cynllun. O ystyried yr uchod a’r holl ystyriaethau perthnasol eraill, argymhelliad y Swyddog yw caniatáu’r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams bod y cais yn cael ei gymeradwyo; eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Eric Jones.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a’r adroddiad.