Mater - cyfarfodydd

Financial Reserves

Cyfarfod: 18/02/2019 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 12)

12 Defnyddio Cronfeydd Wrth Gefn a Balansau pdf eicon PDF 906 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd

 

           Nodi’r polisi cyffredinol ar gronfeydd wrth gefn a balansau a gafodd ei fabwysiadu ar 1 Mawrth, 2016, fel yn Atodiad A yr adroddiad.

           Cymeradwyo’r newidiadau i’r polisi cyffredinol ar gronfeydd wrth gefn a balansau a gafodd ei fabwysiadu ar 1 Mawrth, 2016, fel yn Atodiad A.

           Gosod lefel isafswm y balansau cyffredinol ar gyfer 2019/20 ar £6.76m yn unol ag asesiad y Swyddog Adran 151.

           Cynllunio am gynnydd yn y balansau cyffredinol dros gyfnod o 3 i 5 mlynedd i sicrhau bod lefel wirioneddol y cronfeydd wrth gefn yn cyrraedd y lefel isafswm. Cyflawnir y cynnydd hwn drwy gyllidebu ar gyfer gwargedau blynyddol a gynllunnir.

           Cadarnhau parhad y cronfeydd wrth gefn presennol sydd wedi’u clustnodi.

           Cymeradwyo trosglwyddo’r gronfa Trothwy Gofal o’r gronfa wrth gefn wedi’i chlustnodi i’r Cronfeydd wrth Gefn Cyffredinol.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Adran 151 ar ddefnyddio cronfeydd wrth gefn a balansau ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid mai pwrpas yr adroddiad yw nodi asesiad y Swyddog Adran 151 ar lefel y balansau cyffredinol a'r cronfeydd wrth gefn ar gyfer 2019/20 ac i wneud argymhellion ynghylch dyrannu balansau cyffredinol i'w defnyddio yn ystod 2019/20. Dywedodd yr Aelod Portffolio ei bod yn briodol yn y cyd-destun hwn i gyfeirio eto at Lythyr Archwiliad Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn ar gyfer 2017/18. Mae'r Llythyr yn amlygu sefyllfa cronfeydd wrth gefn y Cyngor ac yn nodi’r duedd ddiweddar o ostyngiad ym malansau cronfa gyffredinol y Cyngor sydd, ym marn yr Archwilydd Cyffredinol yn anghynaladwy ac sydd wedi ei nodi yn y llythyr fel rhywbeth y mae’r Swyddog Adran 151 a’r Cyngor wedi ei gydnabod fel risg. Mae’r Archiwlydd Cyffredinol yn cynghori bod "ystyriaeth barhaus o falansau wrth gefn wrth gefn a sut y gellir eu defnyddio i gefnogi cynlluniau ariannol yn arbennig o bwysig oherwydd nid yw’n gynaliadwy dibynnu ar gronfeydd wrth gefn i gefnogi costau parhaus y Gwasanaethau Gofal / Gwasanaethau Plant sy’n cael eu harwain gan alw. Unwaith y bydd y cronfeydd wrth gefn wedi lleihau, rhaid canfod  ffynonellau ariannol eraill neu wneud arbedion effeithlonrwydd." Aiff yr Archwilydd Cyffredinol yn ei flaen i ddweud bod penderfyniad y Pwyllgor Gwaith i geisio cydbwyso'r gyllideb refeniw yn 2019/20 heb ddefnyddio’r cronfeydd wrth gefn cyffredinol a gwneud arbedion digonol a sicrhau eu bod yn gyraeddadwy, yn benderfyniad i’w groesawu.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151, fod balans cronfa gyffredinol y Cyngor, ei gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd a balansau ysgolion oddeutu £ 27m neu 22% o gyllideb net y Cyngor ar ddiwedd 2015/16; erbyn diwedd 2018/19, rhagwelir y byddant yn lleihau i £ 15m neu 12% o gyllideb net y Cyngor. Dywedodd y Swyddog fod cronfeydd wrth gefn yn cael eu cadw rhag ofn y bydd angen gwario ar unrhyw ddigwyddiadau annisgwyl neu ddigwyddiadau heb eu cynllunio; tynnwyd ar y cronfeydd wrth gefn cyffredinol yn 2017/18 i helpu i gwrdd â gorwariant ar y gyllideb refeniw; mae'n debyg y byddant yn cael eu defnyddio eto i’r pwrpas hwn eleni oherwydd rhagamcenir y bydd gorwariant ar gyllideb refeniw 2018/19. Dyrennir arian hefyd i gyllidebau i gwrdd â chostau digwyddiadau yn ystod y flwyddyn e.e. defnyddiwyd y cronfeydd wrth gefn i gefnogi Tîm Etifeddiaeth yn y Gwasanaethau Plant i ddelio ag achosion hanesyddol ac fe'u defnyddiwyd hefyd yn 2017 i gwrdd â chost ychwanegol difrod llifogydd (y tu allan i gyllideb yr Adran Briffyrdd) yn dilyn y llifogydd difrifol ym mis Tachwedd y flwyddyn honno. Mae cronfeydd wrth gefn clustnodedig y Cyngor wedi'u neilltuo ar gyfer amryw o ddibenion penodol, e.e. cronfa wrth gefn yswiriant i gwrdd â’r amcangyfrif o hawliadau yn y dyfodol fel y gall y Cyngor dalu gor-daliadau nad ydynt wedi eu cynnwys yn yr yswiriant, cronfa wrth gefn ar gyfer Grantiau sy'n dal incwm grant nad  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12