Mater - cyfarfodydd

Independent Sector Care Home Fees 2019/20

Cyfarfod: 18/02/2019 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 10)

10 Ffioedd Cartrefi Gofal y Sector Annibynnol 2019/20 pdf eicon PDF 933 KB

Cyflwyno adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Oedolion.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd

           Cydnabod Methodoleg Ffioedd Gogledd Cymru fel y cafodd ei gweithredu hyd yma gan yr awdurdodau yng ngogledd Cymru fel y sail ar gyfer gosod ffioedd yn Ynys Môn yn ystod 2019/20 (Atodiad 2 yr adroddiad).

           Cymeradwyo’r cynnydd yn y lefelau ffioedd fel y nodir yn Nhabl 2 yr adroddiad.

           Yn yr un modd ag awdurdodau eraill, awdurdodi’r Adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol a Chyllid i ymateb i unrhyw geisiadau gan Gartrefi i edrych ar eu cyfrifon penodol a defnyddio’r ymarfer fel sylfaen i ystyried unrhyw eithriadau i’r ffioedd y cytunwyd arnynt. Bydd rhaid i unrhyw eithriadau gael eu cytuno gyda’r Deilydd Portffolio, y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Phennaeth y Gwasanaethau Oedolion o’r cyllidebau cyfredol. Os na fydd modd dod i gytundeb, bydd y mater yn mynd yn ôl i’r Pwyllgor Gwaith. 

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion yn gofyn i’r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo’r ffioedd arfaethedig ar gyfer cartrefi gofal y sector annibynnol am 2019/20.

Dywedodd y Cadeirydd a'r Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol bod gofyn i'r Awdurdod Lleol adolygu ffioedd cartrefi gofal y sector annibynnol bob blwyddyn i gyd-fynd â’r newidiadau y mae’r Llywodraeth Ganolog yn eu gwneud i fudd-daliadau a lefelau pensiwn. Wrth osod lefelau ar gyfer cartrefi gofal yn y sector annibynnol, mae angen i'r Cyngor ddangos ei fod wedi ystyried yn llawn gostau'r ddarpariaeth wrth bennu ei ffioedd gofal safonol. Gwneir hyn mewn cydweithrediad â'r Awdurdodau eraill yng Ngogledd Cymru a'r Bwrdd Iechyd trwy ddefnyddio Methodoleg Ffi Rhanbarthol fel y gwnaed yn y blynyddoedd blaenorol.  Bwriedir parhau i ddefnyddio'r model hwn ar gyfer 2019/20 sydd wedi adlewyrchu newidiadau deddfwriaethol o ran pensiynau, cyflog byw cenedlaethol a chwyddiant. Fel rhan o’r broses o osod ffioedd ar gyfer 2018/19, ymgynghorodd Ynys Môn ar y ffioedd a gynigiwyd gan y fethodoleg ar gyfer 2018 ac a grynhoir yn Atodiad 2 yr adroddiad. Yn dilyn trafodaeth gyda'r Swyddog Adran 151, mae'r Awdurdod yn bwriadu defnyddio'r fethodoleg Ranbarthol ar gyfer Gofal Preswyl EMI; a’r elfen Gofal Nyrsio Sylfaenol mewn Gofal Cymdeithasol. Mae'r Gwasanaeth yn argymell cynnydd o 12% yn y dychweliad ar fuddsoddiad ar leoliadau Nyrsio EMI i gydnabod y pwysau yn y maes hwn. Yn gyson â'r cyfeiriad strategol y mae'r Cyngor ei gymryd o ran datblygu dewisiadau amgen i ofal preswyl ar ffurf Tai Gofal Ychwanegol a gofal cartref, a chan roi ystyriaeth briodol i fforddiadwyedd y cynnydd a gynigir ar gyfer cartrefi gofal preswyl, bwriedir gosod cyfradd ar gyfer gofal preswyl i oedolion sy’n seiliedig ar ddychweliad buddsoddiad is o 9%.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Dros Dro / Pennaeth y Gwasanaethau  Oedolion y bydd angen efallai ystyried cyflwyniadau unigol gan ddarparwyr ynghylch y ffioedd arfaethedig. Bydd eithriadau i'r cyfraddau ffioedd yn cael eu hystyried os oes tystiolaeth glir i nodi nad yw'r ffi a osodir yn ddigonol mewn unrhyw achos unigol.