Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd argymell bod y Cyngor Llawn yn –
• Cytuno i dynnu’r gofyniad i gael “un cynrychiolydd o gredoau neu enwadau eraill” ar Bwyllgor Sgriwtini pan fydd yn delio â materion Addysg (h.y. pan mae’n cyfarfod fel Pwyllgor Sgriwtini Awdurdod Addysg Lleol) fel sydd wedi’i gynnwys ar hyn o bryd ym mharagraff 4.5.4.4 y Cyfansoddiad fel y gwelir yn Atodiad 1 yr adroddiad fel bod paragraff 4.5.4 yn darllen fel yr hyn sydd wedi’i gynnwys yn Atodiad 2 yr adroddiad.
• Awdurdodi Pennaeth Swyddogaeth y Cyngor (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro i wneud y newidiadau angenrheidiol i’r Cyfansoddiad i adlewyrchu’r ffaith fod y gofyniad a nodir uchod wedi’i dynnu.
Cofnodion:
Cyflwynwyd ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor / Swyddog Monitro) yn amlinellu newid arfaethedig i baragraff 4.5.4 o Gyfansoddiad y Cyngor mewn perthynas â chynrychiolwyr addysg ar bwyllgorau sgriwtini. Mae'r newid arfaethedig yn golygu dileu Rheolau Gweithdrefn Sgriwtini sy’n ymwneud â’r ddarpariaeth i gael cynrychiolydd o grefyddau neu enwadau eraill [yn ogystal â chynrychiolydd o'r Eglwys Gatholig Rufeinig a chynrychiolydd o'r Eglwys yng Nghymru sy'n ofyniad cyfreithiol] ar bwyllgorau sgriwtini'r Awdurdod o ystyried nad yw hyn yn ofyniad deddfwriaethol a’i fod yn fater o ddewis lleol, ac yn wyneb y ffaith hefyd nad oes unrhyw ysgolion o enwadau crefyddol eraill ar Ynys Môn sy’n ei gwneud hi’n anodd i ddefnyddio'r ddarpariaeth ar gyfer y diffiniad o "gredoau neu enwadau eraill. "
Cynigiodd yr Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol yr adroddiad i'r Pwyllgor Gwaith.