4 Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith PDF 748 KB
Cyflwyno adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi ei diweddaru am y cyfnod Ebrill i Ragfyr 2019 fel y’i cyflwynwyd.
Cofnodion:
Cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried – adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yn ymgorffori Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod Ebrill, 2019 i Tachwedd, 2019.
Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ddiweddariad i’r Pwyllgor Gwaith fel a ganlyn –
Eitemau newydd i’r Rhaglen Waith -
• Eitem 3 – Contract Rheoli Gwastraff (cymeradwyo’r amserlen, y broses a’r gyllideb ar gyfer darparu’r Gwasanaeth Rheoli Gwastraff o fis Ebrill, 2021 ymlaen) i’w ystyried yng nghyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 29 Ebrill, 2019.
• Eitem 11 – Contract Rheoli Gwastraff (Cymeradwyo’n derfynol y dull cyflwyno gwasanaeth ar gyfer darparu’r Gwasanaeth Rheoli Gwastraff o fis Ebrill, 2021 ymlaen) i’w ystyried yng nghyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 17 Mehefin, 2019.
• Eitemau 12 ac 19 – Arolwg AGC o’r Gwasanaethau Plant – y Pwyllgor Gwaith i ystyried adroddiad cynnydd Chwarterol ar y Cynllun Gwelliant yn ei gyfarfodydd ar 17 Mehefin ac 16 Medi, 2019.
• Eitem 21 – Cyllideb 2020/21 (cynigion drafft cychwynnol ar y Gyllideb ar gyfer ymgynghori arnynt) i’w hystyried yng nghyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 11 Tachwedd, 2019.
• Eitem 23 – Cerdyn Sgorio Corfforaethol Chwarter 2, 2019/20 i’w ystyried yng nghyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 25 Tachwedd, 2019.
• Eitem 24 – Adroddiad Monitro’r Gyllideb Refeniw a Chyfalaf 2019/20 – Chwarter 2, i’w ystyried yng nghyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 26 Tachwedd, 2019.
• Eitem 25 – Anableddau Dysgu: Trawsnewid Cyfleoedd Dydd, i’w ystyried yng nghyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 25 Tachwedd, 2019.
Dywedodd y Swyddog, yn amodol ar eu cadarnhau, ei bod yn bosib y bydd rhaid cynnwys eitemau newydd yn ymwneud â’r Rhaglen Moderneiddio Ysgolion ar y Rhaglen Waith hefyd.
Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi ei diweddaru am y cyfnod Ebrill i Tachwedd, 2019 fel ei cyflwynwyd.