10 Ceisaidau'n Gwyro PDF 269 KB
10.1 VAR/2019/92 – Glan Morfa, Gaerwen
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
10.1 VAR/2019/92 – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (08) o ganiatâd Cynllunio rhif 33C265 (Trosi adeilad allanol) er mwyn diwygio’r dyluniad yn Glan Morfa, Gaerwen
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Cofnodion:
10.1 VAR/2019/92 - Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (08) o ganiatâd cynllunio rhif 33C265 (Trosi adeilad allanol) er mwyn diwygio'r dyluniad yn Glan Morfa, Gaerwen
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cynnig yn groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond yn un y mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn ystyried ei gymeradwyo.
Dywedodd yr Uwch Swyddog Cynllunio bod yr egwyddor o ddatblygu’r safle wedi cael ei sefydlu’n barod dan y Cynllun Datblygu Lleol blaenorol a bod gwaith ar y fynedfa newydd wedi cychwyn ym mis Awst 2010; o’r herwydd, ystyrir bod y caniatâd cynllunio blaenorol wedi cael ei ddiogelu. Ychwanegodd bod y cais a gyflwynwyd i’r Pwyllgor ar gyfer amrywio amod (08) y caniatâd cynllunio blaenorol sy’n golygu addasu’r dyluniad gan dynnu rhai ffenestri ac ychwanegu ffenestri newydd a newid rhai o’r ffenestri a gymeradwywyd yn flaenorol, ynghyd â chodi estyniad bychan.
Cynigiodd y Cynghorydd Eric W Jones bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Dafydd Roberts.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.