11 Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion PDF 271 KB
11.1 FPL/2020/3 – Parciau, Llanddaniel
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
11.1 FPL/2020/3 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu yn cynnwys anecs ynghyd a ymestyn cwrtil yn Parciau, Llanddaniel
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Cofnodion:
11.1 FPL/2020/3 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu yn cynnwys anecs ynghyd ag ymestyn cwrtil yn Parciau, Llanddaniel
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeiswyr yn Swyddogion perthnasol sy’n gweithio yn y Gwasanaeth Cynllunio. Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, mae Swyddog Monitro’r Cyngor wedi craffu ar y cais.
Dywedodd y Rheolwr Gorfodaeth Cynllunio na chyflwynwyd unrhyw wrthwynebiadau gan ymgyngoreion statudol mewn perthynas â’r cais. Mae’r cais yn cydymffurfio â pholisïau cynllunio mewn perthynas â dyluniad yr annedd a ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus. Argymhellir cymeradwyo’r cais gydag amod yn cyfyngu ar ddefnydd yr anecs i ddibenion sy’n atebol i’r defnydd preswyl a wneir o’r annedd.
Cynigodd y Cynghorydd Eric W Jones bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliodd y Cynghorydd K P Hughes y cynnig.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.