Mater - cyfarfodydd

Monitoring the Housing Revenue Account

Cyfarfod: 17/06/2019 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 9)

9 Monitro Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai - Blwyddyn Ariannol 2018/19 pdf eicon PDF 578 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd nodi’r sefyllfa a amlinellir mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer blwyddyn ariannol 2018/19.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw'r Pwyllgor Gwaith adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer blwyddyn ariannol 2018/19.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod manylion incwm a gwariant o dan y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2018/19 yn Atodiad A i'r adroddiad ac yn dangos bod y cyfrif wedi gorwario £ 121k ar yr ochr refeniw gydag incwm £ 55k yn is na'r gyllideb wreiddiol a gwariant £ 66k yn uwch na'r gyllideb wreiddiol. Roedd gwariant cyfalaf £ 7.3m yn is na'r gyllideb fel y manylir yn Atodiad B i'r adroddiad. Mae'r gwarged, sy'n cyfuno refeniw a chyfalaf, £ 7.2m yn well na'r gyllideb sydd, i raddau helaeth, i’w briodoli i'r gwariant cyfalaf is na'r gyllideb.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 bod balans y Cyfrif Refeniw Tai, sef £ 8,387k ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2018/19, wedi'i glustnodi benodol ac y caiff ei ddefnyddio fel cyfraniad tuag at ariannu gwariant CRT yn y dyfodol yn unig.

 

Penderfynwyd nodi’r sefyllfa a amlinellir mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer blwyddyn ariannol 2018/19.