Mater - cyfarfodydd

Departure Applications

Cyfarfod: 05/06/2019 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 10)

10 Ceisiadau'n Gwyro pdf eicon PDF 641 KB

10.1  FPL/2019/70 – Glyndaf, Rhoscefnhir

10.2  FPL/2019/43 – Tyn Lon, Llangwyllog

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

10.1      FPL/2019/70 – Cais llawn ar gyfer codi annedd sy’n cynnwys balconi ynghyd â chreu mynedfa newydd ar dir ger Glyndaf, Rhoscefnhir.

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

10.2      FPL/2019/43 – Cais llawn ar gyfer codi annedd a garej ynghyd â gosod tanc septig yn Tyn Lôn, Llangwyllog.

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

Cofnodion:

10.1  FPL/2019/70 – Cais llawn ar gyfer codi annedd sy’n cynnwys balconi ynghyd â chreu mynedfa newydd ar dir ger Glyndaf, Rhoscefnhir

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am ei fod yn tynnu’n groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd y mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol ond bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol â’i fryd ar ei ganiatáu.

Rhoes y Rheolwr Rheoli Datblygu amlinelliad o’r prif faterion cynllunio sy’n gysylltiedig â’r cais.

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth P Hughes y dylid caniatáu’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Eric Jones.

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

10.2  FPL/2019/43 – Cais llawn ar gyfer codi annedd a garej ynghyd â gosod tanc septig yn Tyn Lôn, Llangwyllog

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am ei fod yn tynnu’n groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd y mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol ond bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol â’i fryd ar ei ganiatáu.

Rhoes y Rheolwr Rheoli Datblygu amlinelliad o’r prif faterion cynllunio sy’n gysylltiedig â’r cais.

Cynigiodd y Cynghorydd Richard O Jones y dylid caniatáu’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Dafydd Roberts.