Gorchymyn Rheoleiddio Traffig – Amlwch
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Gorchymyn Rheoleiddio Traffig – Amlwch
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol â’r Gorchymyn a’r cynlluniau a hysbysebwyd.
Cofnodion:
Gorchymyn Rheoleiddio Traffig - Amlwch
Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo Dros Dro ynglŷn â Gorchymyn Rheoleiddio Traffig arfaethedig mewn ymateb i sylwadau a dderbyniwyd gan yr Awdurdod Priffyrdd ynghylch parcio’n creu rhwystr, tagfeydd traffig a materion diogelwch ffyrdd yn Amlwch. Mae’r adroddiad yn rhoi crynodeb o’r gwahanol strydoedd sydd yn rhan o’r Gorchymyn arfaethedig.
Dywedodd yr uwch Reolwr Prosiect (Prosiectau Mawr) y derbyniwyd un gwrthwynebiad i’r Gorchymyn arfaethedig yn ymwneud â’r bwriad i gyflwyno llinellau melyn dwbl ar hyd rhan o Ffordd Tan y Bryn, Amlwch. Mae’r gwrthwynebydd yn gweithredu 2 fusnes o’i eiddo ac ar brydiau mae o angen parcio ar y briffordd. Nododd fod yr Awdurdod Priffyrdd yn ystyried fod y Gorchymyn arfaethedig yn hanfodol er lles diogelwch y ffordd ac i sicrhau fod traffig a cherddwyr yn symud yn rhwyddach. Yn dilyn cyflwyno’r llinellau melyn bydd Swyddogion Gorfodaeth yn cynnal arolwg o barcio ar wahanol strydoedd yn Amlwch.
Dywedodd yr Is-Gadeirydd ac Aelod Lleol fod nifer o bryderon yn lleol ynghylch problemau parcio yn Amlwch, yn arbennig ar Ffordd Tan y Bryn, gan fod ceir yn parcio ar ddwy ochr y palmant. Cynigiodd y Cynghorydd R O Jones yr argymhellion yn yr adroddiad. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Bryan Owen.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol â’r Gorchymyn a’r cynlluniau a hysbysebwyd.